Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:35 21/12/2021
Mae dyn 31 oed a wnaeth afael yn a chusanu traed tair merch ysgol wrth iddyn nhw aros am drên, wedi cael ei ddedfrydu yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Cafwyd Dean Marroni, o Cypress Close, Caerhirfryn yn euog o bedwar achos o ymosodiad rhywiol mewn gwrandawiad cynharach a chafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Manceinion ar ddydd Iau, 16 Rhagfyr.
Derbyniodd orchymyn cymunedol dwy flynedd a gorchmynnwyd iddo lofnodi'r Gofrestr Troseddwyr Rhyw am bum mlynedd.Rhaid iddo hefyd dalu gordal dioddefwr o £90.
Clywodd y llys sut ar ddydd Sul, 15 Mawrth, y llynedd aeth Marroniat at fenyw yng Ngorsaf Reilffordd Caerhirfryn o dan yr esgus ei fod yn cynnal arolwg cyn gafael yn ei choes gan y ffêr a thylino ei throed gyda'r ddwy law.
Wedi'i syfrdanu a'i hysgwyd, pan wnaeth hi ei herio, honnodd ei fod yn fyfyriwr tylino, gan dynnu ei hesgid a'i hosan a gogleisio ei throed.
Yna trodd Marroni ei sylw digroeso at dair merch ysgol, 12 a 13 oed, a oedd yn aros am eu trên adref. Gafaelodd yn eu traed a chusanu brig eu treinyrs yn angerddol.
Yna cerddodd i ffwrdd cyn dychwelyd a dilyn y merched ysgol,
Unwaith eto ceisiodd afael yn a chusanu eu hesgidiau cyn diflannu i doiledau'r dynion pan wnaethon nhw rybuddio aelod o staff y rheilffyrdd a alwodd Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Dywedodd y swyddog ymchwilio PC Ben Griffiths: "Fe wnaeth Marrino gyffwrdd â'i ddioddefwyr heb eu caniatâd ac am ei foddhad ei hun mewn ymosodiad ffiaidd.
"Roedd hwn yn ddigwyddiad brawychus i holl ddioddefwyr Marroni, yn enwedig y tri phlentyn sydd, yn parhau i gael eu heffeithio'n fawr gan yr hyn a ddigwyddodd."
"Ni fydd aflonyddu rhywiol nac unrhyw ymddygiad annymunol yn cael ei oddef ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel wrth iddynt deithio
"Byddwn i'n annog unrhyw un sy'n gweld neu'n profi aflonyddu rhywiol ar y rheilffordd i'w riportio i ni – nid yw unrhyw adroddiad yn rhy fach neu ddibwys a byddwn ni bob amser yn eich cymryd o ddifrif. Tecstiwch ni ar 61016 neu ffoniwch 0800 40 50 40. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser."