Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 21 oed a gafodd ei ddal yn defnyddio’r rheilffordd i gludo cyffuriau dosbarth A wedi'i ddedfrydu.
Yn dilyn ei arestio gan dasglu Llinellau Cyffuriau Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, plediodd Adam Chothia, o Heys View Huddersfield, yn euog i feddu ar eitem lafnog, dau gyhuddiad o fod â chyffur dosbarth A (cocên a heroin) yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi a bod â chyffur B (canabis) yn ei feddiant.
Cafodd ei garcharu am 21 mis wedi’i ohirio am 18 mis yn Llys y Goron Preston ar ddydd Llun Medi 2 a’i orchymyn i dalu gordal o £187.
Clywodd y llys sut, ar ddydd Llun 20 Mai, y gwelodd swyddogion o dasglu Llinellau Cyffuriau BTP Chothia yn gadael gorsaf Blackpool North yn ymddwyn yn amheus ac yn defnyddio dwy ffôn symudol, un ohonynt yn ffôn llosgwr.
Pan aeth swyddogion ato ac adnabod eu hunain, fe wnaeth ymddygiad ffyrnig ac ochelgar Chothia godi eu hamheuon ymhellach.
Fe wnaeth gyfaddef ei fod yn cario ychydig o ganabis a chafodd ei gadw yn y ddalfa am chwiliad pan ddaeth swyddogion o hyd i gyllell wyth modfedd ar ddull Rambo yn ei fand gwasg.
Canfuwyd hefyd ei fod yn cario cocên a heroin gyda gwerth stryd o bron i £5,000 ynghyd â’r canabis.
Dywedodd y swyddog ymchwilio DC Andrew Margerison: “Dylai unrhyw un sy’n defnyddio’r rheilffordd i gludo a masnachu mewn cyffuriau anghyfreithlon wybod mai dim ond mater o amser yw hi cyn i ni eu dal.
“Mae gennym lygaid ym mhobman ac mae ein swyddogion arbenigol sydd wedi'u hyfforddi'n dda'n gwybod yn union beth i gadw llygad amdano.
“Dylai unrhyw un sy’n ymwneud â throseddoldeb ar y rheilffordd ein disgwyl ar bob tro. Efallai nad ydyn nhw’n ein gweld ni ond rydyn ni’n eu gwylio.”