Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:24 03/10/2022
Mae dyn a wnaeth ymosod yn rhywiol ar ferch 16 oed ar drên i Rainham wedi cael ei garcharu am dros dair blynedd, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP).
Ymddangosodd Matthew Lewis, 55, ac o Deerton Street, Sittingbourne, yn Llys Ynadon Folkestone ar 17 Mai lle plediodd yn euog i un cyfrif o ymosodiad rhywiol, ac un cyfrif o dorri Gorchymyn Ymddygiad Troseddol (CBO), a roddwyd iddo am droseddau blaenorol ar y rheilffordd.
Ar ddydd Iau 29 Medi, dedfrydwyd Lewis i 34 mis o garchar a gorchymynnwyd iddo lofnodi'r Gofrestr Troseddwyr Rhyw am 10 mlynedd yn Llys y Goron Caergaint.
Am 9.30pm ar ddydd Iau 3 Mehefin 2021, byrddiodd y ddioddefwraig a'i ffrind drên yng ngorsaf Margate pan ddaeth Lewis atyn nhw.
Dechreuodd siarad â nhw a gwneud sylwadau amhriodol yn gyson tuag at y ddwy ferch, gan ofyn am eu cymryd am ddiod ac awgrymu eu bod yn rhedeg i ffwrdd gydag ef. Parhaodd er i'r ddwy ferch fynnu mai dim ond 16 oed oedden nhw.
Aeth Lewis ymlaen i eistedd i lawr wrth ymyl y ddioddefwraig ac ymosod arni'n rhywiol.
Gan sylwi eu bod yn edrych yn anghyfforddus, fe wnaeth dyn oedd yn eistedd gerllaw herio ymddygiad Lewis ac fe wnaeth grŵp o deithwyr wahodd y merched i eistedd gyda nhw ymhellach i lawr y cerbyd.
Symudodd y merched i ffwrdd a gadael y trên yn Rainham pan sylwon nhw fod Lewis hefyd wedi gadael y trên yno. Fe wnaethon nhw dynnu sylw dau aelod o staff rheilffyrdd ato a riportiodd y drosedd i BTP.
Aeth swyddogion ati'n syth i fynychu ac arestio Lewis yn y fan a'r lle.
Wrth iddo ymddangos yn feddw, fe ddangosodd y swyddogion dystiolaeth o dorri ei CBO a oedd yn ei gyfyngu rhag teithio ar y rhwydwaith tra'n feddw.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl Y BTP Stephen Gadd: "Mae Lewis yn unigolyn peryglus a achosodd ymddygiad rhywiol hynod annerbyniol i ferch ifanc, ac rwy'n falch o'i weld y tu ôl i fariau.
"Fe wnaeth ei weithredoedd adael y ddioddefwraig a'i ffrind yn teiml'n ofidus iawn, ac rwyf am ddiolch iddynt am riportio'r digwyddiad yn ddewr a chefnogi ein hymchwiliad. Ni ddylai unrhyw un brofi ymddygiad mor ffiaidd wrth iddyn nhw deithio.
"Os ydych chi'n profi neu'n gweld trosedd rywiol ar y rheilffordd, rwy'n eich annog yn gryf i'w riportio i ni drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40. Byddwn bob amser yn eich cymryd o ddifrif. Mewn argyfwng bob amser deialwch 999."