Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:21 25/01/2023
Mae dyn a wnaeth fygwth archwiliwr tocynnau trên wedi cael ei garcharu yn dilyn ymchwiliad Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Plediodd Philip Longstaff, 51 oed, o ddim cartref sefydlog, yn euog i ymddygiad bygythiol a chafodd ei ddedfrydu i 20 wythnos o garchar gan ynadon Sheffield ar ddydd Mawrth 17 Ionawr.
Cafodd ddirwy o £50 hefyd.
Clywodd y llys sut y daeth Longstaff, a oedd wedi ei ryddhau o'r carchar ar drwydded lai na 24 awr ynghynt, yn sarhaus i'r archwiliwr tocynnau ar wasanaeth Northern a oedd yn teithio rhwng gorsafoedd Meadowhall a Sheffield ar ddydd Llun 16 Ionawr.
Piniodd Longstaff yr archwiliwr tocynnau yn erbyn wal y trên pan ddarganfu ef yn cuddio yn y tŷ bach. Daliodd ei ddwrn caead i wyneb y dioddefwr tra'n cydio mewn potel yn ei law arall, ac roedd yr archwiliwr tocynnau yn ofni ei fod ar fin ei ddefnyddio fel arf.
Fe wnaeth teithiwr ar y gwasanaeth decstio Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig gan ddefnyddio'r rhif 61016 a mynychodd swyddogion yn yr orsaf nesaf.
Cafodd Longstaff ei arestio ac fe wnaeth bharhau â'i doreth o enllibion yn gofyn am dynnu ei gwffiau er mwyn iddo allu torri gên y swyddog arestio. Unwaith iddo gyrraedd y ddalfa daeth yn dreisgar, gan ddyrnu waliau'r ystafell gyfweld.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, PC Dave Price: "Roedd hwn yn cyfarfyddiad brawychus i ddyn oedd ddim ond yn mynd o gwmpas ei ddyletswyddau fel rhan o'i swydd. Mae gan bawb yr hawl i deithio'n ddiogel a theimlo'n ddiogel yn eu man gwaith.
"Mae ymddygiad fel hyn yn wrthun a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i ddwyn y rhai sy'n gyfrifol gerbron y llysoedd."
Dywedodd Tony Baxter, cyfarwyddwr rhanbarthol Northern: "Er, diolch byth, bod digwyddiadau fel hyn yn brin, ni fydd ymddygiad fel hyn yn cael ei oddef gan Northern.
"Fel rhan o'n gwaith uwchraddio fflyd parhaus, mae CCTV diffiniad uchel y gellir ei fonitro mewn amser real gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn cael ei osod ar ein trenau. Mae llawer o'n staff hefyd yn gwisgo camerâu corff sy'n cael eu defnyddio i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddol.
"Ochr yn ochr â Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, rydym wedi ymrwymo i wneud ein trenau a'n gorsafoedd mor ddiogel â phosib i'n staff a'n cwsmeriaid."