Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:42 12/02/2021
Mae dyn a boerodd tuag at ddau aelod o staff rheilffordd yng ngorsaf Plymouth ar ôl honni bod ganddo Coronafeirws, wedi cael ei garcharu am gyfanswm o 16 wythnos, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP).
Cafwyd Ahmed Abdalla, 34, ac o Margaret Crescent, Cernyw, yn euog o ddau gyhuddiad o ymosodiad gyffredin a throsedd trefn gyhoeddus adran 4a yn Llys Ynadon Plymouth ar 11 Chwefror.
Ar ddydd Mercher 10 Chwefror am tua 9:00 am, gofynnodd aelod o staff rheilffordd i Abdalla ddarparu tocyn a chafodd ei herio am beidio â gwisgo gorchudd wyneb wrth deithio ar wasanaeth tuag at Plymouth. Daeth Abdalla yn ymosodol a dechreuodd dyngu a gweiddi ar yr aelod o staff.
Galwodd yr aelod staff BTP, a chyfarfodd swyddogion â'r trên yn Plymouth. Ar ôl cael gwybod gan swyddogion y byddai angen iddo adael y trên pe na bai’n prynu tocyn, gwaeddodd Abdalla “Mae gen i coronafeirws”.
Daeth Abdalla yn fwy ymosodol a phoerodd tuag at yr aelod o staff rheilffordd a oedd yn cynorthwyo'r heddlu ar y trên. Fe wnaeth swyddogion ffrwyno a symud Abdalla o'r trên, a aeth ymlaen wedyn i boeri tuag at aelod arall o staff y rheilffordd ar y platfform.
Cafodd Abdalla ei arestio a'i gadw yn y ddalfa nes iddo ymddangos yn y llys.
Dywedodd Rhingyll Dros Dro BTP, Pete Cosgrove: “Ni fydd ymddygiad treisgar tuag at aelodau staff rheilffyrdd yn cael ei oddef o dan unrhyw amgylchiadau.
“Ni ddylai neb ofni ymosod arno yn y gwaith, yn enwedig mewn modd mor ffiaidd.
“Rwy’n ddiolchgar i’r llysoedd am y ddedfryd a roddwyd ar y diffynnydd ac yn gobeithio ei fod yn ein hatgoffa’n gryf na fydd y math hwn o ymddygiad yn cael ei oddef ar y rheilffordd.
Os ydych chi'n profi unrhyw broblemau ar drafnidiaeth gyhoeddus, cysylltwch â BTP trwy anfon neges destun at 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 ar unrhyw adeg. Os ydych chi mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999 bob amser.