Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 34 oed wedi’i garcharu am ymosod yn rhywiol ar fenyw ifanc ar drên.
Yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, plediodd Kristaps Berzins, heb gartref sefydlog, yn euog i ymosodiad rhywiol yn Llys Ynadon Birmingham ar ddydd Iau diwethaf (4 Ebrill).
Cafodd ei garcharu am saith mis a chafodd orchymyn Atal Niwed Rhywiol pum mlynedd sy'n ei wahardd rhag eistedd wrth ymyl neu ar draws o, agosáu, cyffwrdd neu gyfathrebu ag unrhyw fenyw unigol ar gludiant cyhoeddus.
Rhaid iddo hefyd lofnodi'r gofrestr troseddwyr rhyw am saith mlynedd a thalu iawndal o £300.
Clywodd y llys sut, ar ddydd Gwener 30 Mehefin y llynedd, roedd Berzins yn eistedd wrth ymyl menyw ifanc ar drên o Birmingham i Fanceinion.
Er bod y fenyw yn gwisgo clustffonau, ceisiodd ymgysylltu â hi mewn sgwrs gan wneud sylwadau personol ac amhriodol.
Daeth sylwadau Berzins yn fwyfwy ymosodol yn y pen draw gan waethygu hyd nes iddo ymosod yn rhywiol ar y fenyw.
Pan aeth Berzins i'r toiled symudodd y fenyw yn gyflym i sedd arall a riportio beth oedd wedi digwydd i aelod o staff y trên a roddodd wybod i Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Dywedodd y swyddog ymchwilio PC Molly Brunton Cole: “Roedd hwn yn gyfarfyddiad brawychus i’r fenyw ifanc a riportiodd yn ddewr am y digwyddiad ac a gefnogodd yr ymchwiliad.
“Diolch byth mae Berzins yn un ysglyfaethwr rhywiol arall oddi ar y strydoedd.
“Rydym yn cymryd pob adroddiad o aflonyddu rhywiol ac ymddygiad rhywiol digroeso o ddifrif a byddwn ni'n cefnogi dioddefwyr trwy gydol ein hymchwiliadau.
“Os ydych chi’n profi neu’n dyst i drosedd rywiol ar y rheilffordd, fe’ch anogaf i'w riportio i 61016 neu drwy'r ap Railway Guardian. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.”