Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 26 oed wedi’i garcharu ar ôl iddo wthio aelod o staff y rheilffordd gan achosi iddi ddisgyn ar cledrau trên.
Fe wnaeth Cheyenne Naeb, dinesydd Americanaidd, o Constitution Street, Dundee, bledio'n euog i ymddygiad bygythiol a difrïol ac ymosod i anafu a pheryglu bywyd a chafodd ei ddedfrydu i 20 mis yn y carchar yn Llys Sirol Glasgow ar ddydd Gwener 30 Awst.
Clywodd y llys sut, ar ddydd Mercher 1 Chwefror 2023, yr aeth Naeb at aelod o staff ScotRail a oedd newydd anfon trên o blatfform yng ngorsaf Queen Street Glasgow.
Fe wnaeth ddechrau llu o enllibion geiriol aflan tuag ati oherwydd ei fod wedi methu’r trên cyn ei gwthio â’i ddwy law, gan achosi iddi ddisgyn ar y cledrau o flaen y trên.
Yna fe wnaeth gerdded i ffwrdd o'r lleoliad a chroesi'r cledrau i blatfform arall.
Ymatebodd swyddogion i adroddiad o dresmasu gan atal Naeb cyn iddi ddod i’r amlwg ei fod wedi gwthio’r aelod o staff ac yna cafodd ei arestio am ymosod.
Fe wnaeth y ddioddefwraig fynychu'r ysbyty a dioddefodd chwyddo a chleisio sylweddol i'w chlun o ganlyniad i'r cwymp.
Dywedodd yr Arolygydd Gary Brown: “Mae staff y rheilffyrdd yn chwarae rhan annatod wrth helpu i gadw’r rhwydwaith rheilffyrdd yn ddiogel. Mae ganddyn nhw'r hawl i wneud eu gwaith heb ofni trais, cam-drin neu frawychu ac ni fyddwn yn goddef unrhyw ymddygiad sy'n bygwth eu diogelwch.
“Gallai ffrwydrad treisgar Naeb, a oedd yn deillio o rwystredigaeth o golli ei drên, fod wedi arwain at ganlyniadau trasig i’r ddioddefwraig. Y gobaith yw y bydd ei ddedfryd sylweddolyn rhoi amser iddo fyfyrio ar ei weithredoedd ofnadwy a mynd i’r afael â’i faterion dicter amlwg.”
Dywedodd Phil Campbell, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cwsmeriaid yn ScotRail: “Diogelwch ein pobl a’n cwsmeriaid yw ein prif flaenoriaeth, ac mae gan bawb yr hawl i fynd o gwmpas eu diwrnod mewn heddwch heb ofni niwed corfforol, aflonyddu na sarhad.
“Roedd yr hyn a ddigwyddodd i’n haelod o staff yn gwbl annerbyniol ac rydym yn ddiolchgar i’r llys am roi dedfryd o garchar.
“Rydym yn gobeithio bod hyn yn anfon neges glir a diamwys i bawb na ddylai staff ScotRail gael eu cam-drin mewn unrhyw ffordd, yn gorfforol nac ar lafar, wrth gyflawni eu dyletswyddau.
“Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i sicrhau bod Rheilffyrdd yr Alban yn amgylchedd diogel i’n cwsmeriaid, a’n pobl ein hunain.”