Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:11 06/05/2021
Mae dyn 44 oed wedi’i garcharu am rwystro’r rheilffordd, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Plediodd Yaasin Ahmed Idris, o Ravel Row, Glasgow, yn euog i rwystro’r rheilffordd a throsedd trefn gyhoeddus a dedfrydwyd ef i 24 wythnos yn y carchar ar 23 Ebrill yn Llys Ynadon Willesden.
Clywodd y llys sut y gwelwyd Idris ar 20 Hydref y llynedd yng ngorsaf Huddersfield yn croesi cledrau'r rheilffordd ac yn rhegi a gweiddi ar y cyhoedd gan staff yr orsaf.
Yna aeth at aelod o staff yr orsaf, gan groesi'r cledrau eto, gan fygwth ymosod arno wrth ddyrnu’r awyr.
Parhaodd i wneud bygythiadau i'r dioddefwr ynghyd ag aelodau eraill o staff yr orsaf gan beri iddynt ofni am eu diogelwch.
Pan gyrhaeddodd yr heddlu, parhaodd Idris i fod yn ymosodol, gan gicio allan tuag at swyddogion wrth iddyn nhw ei arestio.
Dywedodd y swyddog ymchwilio PC Sorcha Cantwell-Crook: “Ni fydd ymddygiad bygythiol a difrïol ar y rheilffordd yn cael ei oddef o dan unrhyw amgylchiadau. Ni ddylai neb ofni cael ei ddifrïo yn y gwaith.
“Amharodd Idris ar redeg trenau ar y lein, gan gostio mwy na £5,000 mewn oediadau.
“Rwy’n ddiolchgar i’r llysoedd am y ddedfryd a roddwyd a gobeithiaf ei bod yn ein hatgoffa’n gryf nad yw’r math hwn o ymddygiad yn dderbyniol.”.
Os ydych chi'n profi ymddygiad ymosodol neu fygythiol ar y rheilffordd, cysylltwch â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 ar unrhyw adeg. Mewn argyfwng ffoniwch 999.