Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:39 10/08/2022
Mae dyn wedi ei garcharu am dros wyth mis am rwystro'r rheilffordd, gan achosi i 13 trên gael eu gohirio, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Plediodd Stephen Harrell, 36 oed o Springfield Street, Wigan, yn euog i rwystro'r rheilffordd a chafodd ei ddedfrydu i 270 diwrnod o garchar yn llys Ynadon Manceinion a Salford ar ddydd Mawrth, 2 Awst.
Cafodd hefyd orchymyn i dalu iawndal o £250.
Clywodd y llys sut, ar ddydd Sul, 31 Gorffennaf, cafodd Heddlu Trafnidiaeth Prydeig wybod am ddigwyddiad o dresmasu yng ngorsaf Salford Crescent.
Mynychodd swyddog a gweld Harrell meddwol yn neidio i lawr o'r platfform i'r traciau a dechrau cerdded i gyfeiriad Swinton.
Rhoddwyd stop ar bob trên ar waith a danfonwyd hofrennydd heddlu'r NPAS i ddod o hyd i Harrell wedi i swyddogion golli golwg arno ar y cledrau oherwydd y tywyllwch.
Yn y pen draw cafodd ei weld gan yr hofrennydd a'i leoli'n chwilio trwy fin y tu allan i dafarn ar Agecroft Road.
Roedd Harrell ar y cledrau ac ochr y rheilffordd am tua 60 munud gan achosi oedi o 287 munud a stopiwyd 13 trên. Mae Network Rail wedi cadarnhau bod cyfanswm cost yr oedi wedi dod i £9, 223.90.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, PC Peter Hogg: "Gallai gweithredoedd anghyfrifol a di-hid Harrell fod wedi costio ei fywyd iddo.
"Er mwyn amddiffyn ei ddiogelwch, ataliwyd nifer o drenau, gan achosi oedi ac anghyfleustra cwbl ddiangen i deithwyr a chost enfawr i Network Rail, heb sôn am y gost o ddefnyddio hofrennydd yr heddlu.
"Fe gafodd ymddygiad un unigolyn effaith enfawr ar eraill. Nid yw bod yn feddw'n esgus."