Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:42 25/03/2021
Mae lleidr bachu cyfle a ddygodd fagiau teithiwr arall wedi cael ei garcharu am 24 wythnos.
Ymddangosodd Timothy Edward Leary, 45 oed, o Millstone Avenue, Barrow-in-Furness, gerbron Ynadon Barrow ar ddydd Iau, 11 Mawrth a phlediodd yn euog i ddwyn. Cafodd ei ddedfrydu i 24 wythnos yn y carchar a gorchmynwyd iddo dalu iawndal o £1000, gwerth cynnwys y cas a ddygodd.
Clywodd y llys sut yr oedd y dioddefwr yn dychwelyd o daith i Lundain ar ddydd Sul, 11 Hydref y llynedd. Sylwodd ar Leary a'i wraig yn eistedd gyferbyn â'r rac casys pan aeth i gael gwefrydd o'i gas.
Pan aeth i adael y trên yng Nghaerliwelydd a chasglu ei gasys, roedd ei gas cyfarpar o'r Swistir, yn cynnwys dillad, ei basbort, gliniadur gwaith a'i gerdyn credyd ar goll.
Gan ddefnyddio meddalwedd i ddod o hyd i'w liniadur, fe wnaeth y dioddefwr olrhain y cas i ardal Barrow a gwiriodd swyddogion BTP luniau teledu cylch cyfyng yn yr orsaf.
Fe ddangosodd Leary a'i wraig yn gadael yr orsaf gyda'r cas wedi'i ddwyn.
Dywedodd y swyddog ymchwilio PC Geoffrey Daly-Tse: “Roedd hwn yn weithred o ddwyn digywilydd. Roedd Leary yn amlwg wedi gweld y cês ar y trên ac ni wastraffodd unrhyw amser wrth ei gymryd a gadael yr orsaf gydag ef. Yr hyn nad oedd Leary yn cyfrif arno oedd y teledu cylch cyfyng helaeth sy'n cwmpasu'r rhwydwaith reilffyrdd ar drenau ac mewn gorsafoedd.
“Gobeithio y bydd treulio amser yn y carchar yn caniatáu amser iddo fyfyrio a’i atal rhag dwyn eiddo mae pobl eraill wedi gweithio'n galed i'w cael.”