Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:00 08/08/2022
Mae dyn 36 oed wedi cael ei garcharu wedi iddo dorri mewn i orsaf heddlu wrth gario cyllell.
Plediodd Craig Hodson, o Wells Road, Wheatley, Doncaster, yn euog i fwrgleriaeth a bod ag erthygl llafnog yn ei feddiant a chafodd ei ddedfrydu i gyfanswm o 25 wythnos yn y carchar ar ddydd Iau, 28 Gorffennaf yn Llys Ynadon Doncaster.
Fe'i gorchmynnwyd hefyd i dalu gordal dioddefwr o £154.
Clywodd y llys sut, yn oriau mân ddydd Sul, 26 Mehefin, cafodd swyddogion y tu mewn i orsaf Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn Doncaster eu rhybuddio gan sŵn bangio yn yr adeilad. Datgelodd chwiliad ddifrod helaeth i ddrysau allanol a mewnol a chafwyd hyd i Hodson yn cuddio yn swyddfa'r prif arolygydd.
Gwnaed ymgais i dorri'r cebl diogelwch o liniadur yr heddlu ymhlith difrod arall.
Roedd lluniau CCTV yn dangos Hodson yn chwifio cyllell saith modfedd o gwmpas wrth iddo nesáu at yr orsaf. Cafwyd hyd i'r gyllell wedi'i chuddio y tu ôl i wardrob yn y swyddfa.
Wrth gael ei gyfweld gan yr heddlu honnodd Hodson fod ganddo fownti ar ei ben a'i fod wedi torri i mewn i orsaf yr heddlu i guddio a gofyn am gymorth.
Fe wnaeth y Swyddog ymchwilio PC Poppy Hill ddweud: "Honnodd Hodson ei fod yn cario'r gyllell i'w amddiffyn a'i fod wedi torri i mewn i orsaf yr heddlu i ddod o hyd i le o ddiogelwch.
"Mae pam y dewisodd beidio â chysylltu â'r heddlu mewn modd mwy uniongred yn parhau'n ddirgelwch er bod y ffaith bod offer swyddfa wedi'i ymyrryd ag ef ac wedi'i niweidio'n golygu bod yr esgus hwn braidd yn anghredadwy.
"Os oes angen i chi gysylltu â ni, gallwch ffonio 0300 405040, tecstio ni ar 61016 neu, os ydych chi mewn gorsaf, canwch y gloch yng ngorsaf yr heddlu. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser."
"Ni fyddwn i'n argymell mynd i mewn i'r orsaf trwy rym oni bai eich bod yn barod i dalu'r canlyniadau gyda thymor o garchar."