Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:41 13/06/2022
Dyn wedi'i ddedfrydu am ymosod ar fechgyn ysgol mewn gorsaf yn Swydd Gaer
Mae dyn 57 oed wedi cael ei ddedfrydu am ymosod yn rhywiol ar dri bachgen yn eu harddegau, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Plediodd Nicky Fallows, o Greenfields, Winsford, yn euog i dri chyhuddiad o ymosod a throsedd trefn gyhoeddus mewn gwrandawiad cynharach.
Cafodd ei ddedfrydu i 24 wythnos yn y carchar yn Llys Ynadon Warrington ar ddydd Gwener 10 Mehefin.
Clywodd y llys sut yt aeth Fallows at ddau fachgen ifanc mewn gwisg ysgol yng ngorsaf Hartford ar ddydd Mawrth 7 Medi y llynedd.
Cymerodd dei gan un o'r bechgyn a tharo'r bachgen arall, plentyn 12 oed, o amgylch y pen a'r gwddf gydag ef.
Mewn digwyddiad ar wahân, ar yr un diwrnod, roedd bachgen arall yn eistedd ar fainc yn yr orsaf gyda'i ffrind. Aeth Fallows atyn nhw a gafael yn yr ail fachgen, 13 oed, wrth y pen, gyda'i ddwy law.
Aeth Fallows at y trydydd dioddefwr, 15 oed, ar yr un diwrnod. Gwthiodd Fallows ei ben i ben y bachgen ysgol wrth wneud sylwadau difrïol am ei ymddangosiad.
Yn dilyn ymchwiliad helaeth gan swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn Crewe, gan weithio gyda chydweithwyr yn Heddlu Swydd Gaer, cafodd Fallows ei adnabod a'i arestio'n gyflym a rhoddwyd mesurau diogelu ar waith ar gyfer y plant dan sylw.
Dywedodd y swyddog ymchwilio DC Melanie Dodd: "Roedd hwn yn ddigwyddiad hynod o frawychus a adawodd y tri bachgen yn sigledig ac yn ddealladwy yn ofni dieithriaid.
"Roedd y rhain yn ffrindiau ysgol, yn cadw at eu hunain, pan benderfynodd Fallows meddw i achosi trais corfforol a gwneud bygythiadau iddynt. Mae'n ymgorfforiad o lwfrdra i ddyn yn ei lawn dwf dargedu bechgyn ysgol i sarhau a cham-drin.
"Ni oddefir ymddygiad fel hyn ac rydym yn annog unrhyw un sy'n dyst i unrhyw achosion o drais neu gam-drin ar y rheilffordd i ddefnyddio ein rhif testun pwyllog, 61016, i'n rhybuddio.
"Hoffwn ganmol y bobl ifanc dan sylw, y tri dioddefwr a'r ddau dyst a'n cynorthwyodd yn ddewr drwy gydol yr ymchwiliad cyfan"