Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:45 12/04/2021
Mae dyn 35 oed wedi'i garcharu am chwe mis ar ôl dyrnu gwarchodwr diogelwch ac ymosod ar dri swyddog heddlu, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Plediodd Thomas John Murphy, heb gartref sefydlog, yn euog i ymosod, difrod troseddol a thri chyhuddiad o ymosod ar weithiwr brys.
Cafodd ei ddedfrydu i chwe mis yn y carchar a gorchymynnwyd iddo dalu cyfanswm o £150 mewn iawndal gan ynadon Cilgwri ar ddydd Llun, 29 Mawrth.
Clywodd y llys sut y gofynnodd swyddogion Diogelwch Carlisle, a oedd yn gweithio i Merseyrail, ar ddydd Gwener, 26 Mawrth i Murphy adael y trên gan ei fod yn yfed alcohol ac yn dod yn ymosodol pan ddywedodd y swyddogion wrtho y byddai angen atafaelu’r alcohol os oedd yn dymuno parhau ei daith.
O dan is-ddeddf y rheilffordd mae'n anghyfreithlon yfed alcohol ar wasanaeth Merseyrail.
Fe darodd Murphy y gwarchodwr diogelwch, gan ei ddyrnu yn uniongyrchol ar ochr ei wyneb.
Fe wnaeth swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig fynychu ac arestio Murphy ar amheuaeth o ymosod.
Wrth iddo gael ei arestio ceisiodd Murphy faglu'r swyddogion a daeth yn fwyfwy ymosodol a bygythiol a bu'n rhaid ei ffrwyno sawl gwaith.
Wrth gael ei gymryd i'r ddalfa, daeth Murphy yn ymosodol ac yn ddifrïol eto, gan gicio swyddogion.
Mewn cyfweliad honnodd na allai gofio unrhyw beth cyn taro ei ben yn erbyn y wal sawl gwaith.
Dywedodd y Prif arolygydd Dave Rams: “Nid yw unrhyw un yn haeddu cael ei ymosod arno neu ei sarhau wrth gyflawni ei swydd. Cafodd Murphy y dewis i naill ai adael y trên gyda’r alcohol neu ei ildio a pharhau ar ei daith.
“Ei ymateb oedd dod yn ymosodol ac ymosod ar un o’r swyddogion diogelwch. Parhaodd â'i lif o enllibion tuag at swyddogion heddlu cyn ymosod yn gorfforol arnyn nhw.
“Mae ymddygiad fel hyn yn gwbl annioddefol a byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i ymchwilio i droseddwyr treisgar fel hyn a dod â nhw o flaen eu gwell.”
Dywedodd Andy Heath, Rheolwr Gyfarwyddwr Merseyrail: “Mae unrhyw fath o gamdriniaeth a gyfeirir tuag at ein staff neu’n partneriaid yn gwbl annerbyniol ac rydym yn gweithio’n galed gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i osgoi unrhyw achosion fel yr un hwn.
“Mae'n drosedd yfed alcohol ar ein trenau ac mae'r digwyddiad hwn yn dangos yn union pam mae'r is-ddeddf hon ar waith i amddiffyn ein staff a'n teithwyr.
“Rwy’n gobeithio bod y ddedfryd hon yn atal unrhyw un sy’n bwriadu cam-drin neu ymosod ar aelod o’n staff neu unrhyw un o’n partneriaid sy’n gweithio ar y rhwydwaith sy’n gweithio’n ddiflino i amddiffyn y rhai sy’n teithio gyda ni.”