Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 22 oed wedi’i garcharu am 27 mis ar ôl iddo ladrata beic oddi wrth fachgen 11 oed yng ngorsaf reilffordd Grimsby Town.
Plediodd Ashley Farrar, a anwyd ar 20 Chwefror 2002 ac heb gyfeiriad sefydlog, yn euog i ladrata yn Llys y Goron Grimsby ar 2 Ebrill 2024. Ochr yn ochr â’r ddedfryd o garchar, fe’i gorfodwyd hefyd i dalu gordal o £228.
Clywodd y llys fod Farrar wedi mynd at fachgen 11 oed a bachgen 13 oed a oedd yn cerdded ar draws drosffordd yr orsaf gyda’u beiciau ar ddydd Sul 21 Ionawr 2024.
Wrth i Farrar fynd i gerdded heibio, gafaelodd yn handlenni beic y bachgen 11 oed cyn ceisio ei wthio allan o’r ffordd a chydio yn y beic.
Pan ofynnwyd iddo beth oedd yn ei wneud, atebodd Farrar “Rwy’n dwyn eich beic”, a pharhaodd y pâr i ymgodymu ag ef tra llwyddodd y bachgen 11 oed i ddal gafael ar y handlenni. Rhedodd y bachgen 13 oed i ffwrdd i geisio dod o hyd i gymorth tra bod y lladrad yn digwydd.
Parhaodd y dioddefwr i geisio atal Farrar rhag cymryd y beic trwy ddal ei afael ar y teiar cefn, ond anelodd Farrar bwnsh ato a gwneud iddo ollwng gafael.
Aeth Farrar ymlaen i adael yr orsaf gyda'r beic, a gafodd ei olrhain a'i adfer. Yn ddiweddarach, prisiwyd y beic a'r ychwanegiadau ar £1100.
Dywedodd y swyddog ymchwilio PC Jack Robinson: “Y dioddefwr yn yr achos hwn oedd plentyn yn ceisio mwynhau ei ddiwrnod gyda ffrind, a gweithredodd Farrar mewn modd ffiaidd a llwfr trwy ei dargedu ar gyfer ei feic.
“Rwy’n hynod falch gyda’r ddedfryd a roddwyd ac yn gobeithio y bydd yn anfon neges y byddwn ni'n erlyn yn ddidrugaredd y rhai sy’n targedu ac yn lladrata oddi wrth bobl fregus ar y rheilffyrdd.”