Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:50 08/04/2021
Mae dyn a ddinoethodd ei hun i fenyw ar ei hunan yng ngorsaf reilffordd Kettering wedi'i ei garcharu am 16 wythnos.
Ymddangosodd Steven Ross, 26, ac o St Peters Street, Northampton, yn Llys Ynadon Swydd Gaerlŷr ar 6 Ebrill. Fe'i cafwyd yn euog o ddinoethi'i hun yn anweddus a bod ag erthygl â llafn yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.
Fe wnaeth y barnwr ei ddedfrydu i 16 wythnos yn y carchar - chwe wythnos am y drosedd dinoethi'i hun yn anweddus a 10 wythnos am fod ag erthygl â llafn yn ei feddiant.
Gorchmynnwyd Ross hefyd i lofnodi Cofrestr y Troseddwyr Rhyw am saith mlynedd.
Ar 30 Mawrth am 6.20pm, roedd menyw 23 oed ar fwrdd gwasanaeth trên a ddaeth i ben yng ngorsaf Kettering. Wrth i'r fenyw aros ar y platfform am y trên nesaf, sylwodd hi ar Ross yn eistedd ar fainc ar y platfform.
Aeth ychydig funudau heibio, a throdd y fenyw i weld Ross, a oedd wedi tynnu ei drowsus a'i ddillad isaf i lawr, gan gyffwrdd â'i hun yn amhriodol
Parhaodd â'r weithred wrth edrych ar y ddioddefwraig cyn iddi gerdded i lawr y platfform i ffwrdd o Ross a ffonio ei ffrind a'i cynghorodd i ffonio'r heddlu.
Yna daeth y fenyw o hyd i ddau aelod o staff y rheilffordd a dweud wrthynt beth oedd wedi digwydd. Yna hebryngodd un o'r aelodau staff y fenyw i fynd ar drên er mwyn ei diogelwch
Yna fe welodd staff yr orsaf Ross yn mynd ar drên yng ngorsaf Kettering ar ddydd Llun 5 Ebrill. Fe wnaethon nhw hysbysu Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) a chyfarfu swyddogion â'r trên yng Nghaerlŷr ac arestio Ross mewn cysylltiad â'r drosedd.
Aethpwyd â Ross i'r ddalfa lle canfuwyd bod cyllell gegin yn ei feddiant a'i arestio ymhellach am fod ag erthygl â llafn yn ei feddiant.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl BTP, Philip Burn:“Roedd hwn yn ddigwyddiad gwarthus ac ysgytiol pan oedd merch ar ei hunan yn destun ymddygiad na ddylai unrhyw un fod yn dyst iddo mewn man cyhoeddus.
“Oherwydd gweithredoedd y ddioddefwraig o riportio’r digwyddiad i staff y rheilffordd a’r heddlu, arweiniodd at adnabod, arestio a dedfrydu’r dyn dan amheuaeth i gyd o fewn wyth diwrnod i’r drosedd ddigwydd, gan wneud y rhwydwaith rheilffyrdd yn lle mwy diogel i’r cyhoedd sy’n teithio.
“Hoffwn ddiolch i aelodau staff y rheilffordd a gefnogodd y ddioddefwraig yn syth ar ôl y digwyddiad, ac am eu gweithredoedd cyflym wrth alw’r heddlu pan wnaethant gydnabod Ross yn mynd ar fwrdd trên.
“Hoffwn annog dioddefwyr a thystion o unrhyw fath o ymddygiad rhywiol i'w riportio trwy ein tecstio ni'n ddisylw ar 61016 neu ffonio 999 mewn argyfwng. Nid oes unrhyw adroddiad sy'n rhy fach, a byddwn bob amser yn eich cymryd o ddifrif. ”