Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:02 06/08/2021
Mae dyn a lansiodd ymosodiad creulon ar ddyn oedd yn teithio ar ei ben ei hun ar drên wedi cael ei garcharu, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP).
Cafodd Mark Anthony Kelly, 34, a heb gartref sefydlog, ei ddedfrydu i gyfanswm o ddwy flynedd a hanner o garchar a'i orchymyn i dalu £181 mewn gordal dioddefwr ddydd Mercher 4 Awst.
Ar ddydd Iau 26 Mawrth 2020, daeth Kelly at ddyn wrth deithio ar drên rhwng Caer a Chaergybi. Clywodd y llys sut y gwnaeth Kelly atal y dyn yn sydyn a lansio ymosodiad milain a pharhaus, gan adael y dioddefwr â sawl anaf i'w wyneb.
Yn ystod yr ymosodiad, tarodd Kelly’r dioddefwr dros ugain gwaith, poeri yn ei wyneb, ei gicio i’r llawr a stampio ar ei ben. Gwnaeth sawl ymdrech hefyd i ddwyn bag y dioddefwr.
Cafodd Kelly ei harestio am Niwed Corfforol Gwirioneddol a phlediodd yn euog i’r drosedd ond methodd ag ymddangos yn Llys y Goron yr Wyddgrug i’w ddedfrydu.
Ar ôl ymdrechion sylweddol i olrhain Kelly, cafodd ei arestio am drosedd anghysylltiedig gan Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr a'i ddedfrydu o'r carchar.
Dywedodd Chris Rowlands, Swyddog Ymchwilio’r BTP: “Roedd hwn yn ymosodiad cwbl ddisynnwyr a pharhaus, yn para chwe munud, ar ddieithryn llwyr yn teithio ar ei ben ei hun.
“Ni fydd y math hwn o ymddygiad yn cael ei oddef ar y rheilffordd ac rydym yn ddiolchgar i'r ddedfryd ac osodwyd gan y llysoedd.
“Diolch byth, mae digwyddiadau fel hyn yn brin, ond os ydych chi'n profi unrhyw broblemau ar y rheilffordd, rhowch wybod i ni trwy anfon neges destun at 61016 neu ffonio 0800 40 50 40. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.”