Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:17 20/01/2021
Mae dyn wedi’i garcharu am chwe wythnos ar ôl iddo gael ei ddarganfod yn cario cyllell yn ei sach deithio yng ngorsaf Hackney Central, Llundain.
Fe welodd swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, a oedd yn patrolio'r rhwydwaith, Peter Amin, 49, yn mynd trwy'r rhwystrau tocynnau heb dalu.
Cafodd ei arestio am osgoi talu am docyn ar ôl iddo wrthod ymgysylltu â’r swyddogion, gan roi enw ffug yn barhaus - yn ystod chwiliad fe ddaethon nhw o hyd i’r arf yn ei sach deithio.
Digwyddodd y digwyddiad am 6pm ar ddydd Mercher 28 Hydref 2020.
Methodd Amin ag ymddangos am ei ddyddiad yn y llys, cyhoeddwyd gwarant, a chafodd ei arestio eto ar ddechrau mis Rhagfyr.
Bryd hynny, roedd ganddo hefyd rywfaint o ganabis yn ei feddiant.
Cafodd Amin, o City Road yn Islington, Llundain, ei garcharu ar ddydd Mercher 6 Ionawr.
Plediodd yn euog i feddu ar arf ymosodol mewn man cyhoeddus a bod â chyffur dosbarth B yn ei feddiant.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, PC Adrian Young, rhan o Dîm Tasgau ARL: “Mae ein tîm yn gweithredu ar draws y London Overground i gyd, gan gefnogi ein cydweithwyr yn y diwydiant rheilffyrdd, ac yn sicrhau bod y rheilffordd yn parhau i fod yn ffordd ddiogel o deithio.
“Rydym yn aml yn defnyddio dillad plaen ac rydym yn gwylio am unrhyw weithgareddau troseddol sy'n effeithio ar ein hawdurdodaeth.”