Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi’i gael yn euog o sawl trosedd rhywiol difrifol, yn dilyn ymchwiliad ar y cyd rhwng Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (HTP) a Heddlu Swydd Bedford.
Cafwyd Awsaf Ahmed, 30 oed, o Rutland Avenue, High Wycombe yn euog gan reithgor o dreisio merch o dan 16 oed, ac achosi / cymell plentyn i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol yn Llys y Goron Llundain Fewnol ar ddydd Mercher 24ain Ebrill 2024. Roedd Ahmed eisoes wedi pledio’n euog i gyhuddiad o achosi/annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol mewn gwrandawiad cynharach. Mae dyddiad dedfrydu wedi'i osod ar gyfer dydd Gwener 14eg Mehefin 2024.
Clywodd y llys fod y ddioddefwraig – merch 14 oed – ar ddydd Mawrth 10 Hydref 2023, am oddeutu 10.30pm – ar fwrdd trên yn mynd tuag at orsaf Marylebone Llundain pan aeth Ahmed i mewn i’r cerbyd. Ymgysylltodd Ahmed â'r ddioddefwraig a'i grŵp o ffrindiau mewn sgwrs, gan ofyn eu hoedran ac a oeddent yn ysmygu canabis.
Yna rhoddodd Ahmed bwysau ar y ddioddefwraig i’w chael ar ei phen ei hun, gan ei gorfodi i siarad ag ef yn breifat yn y toiledau ac awgrymu bod ganddo ffrindiau ym mhobman, gan wneud iddi ofni am ddiogelwch ei ffrind. Ar ôl mynd i mewn i'r toiled, fe wnaeth Ahmed eu cloi y tu mewn ac er gwaethaf ei phledion mynych iddo stopio, fe'i treisiodd hi. Yn dilyn yr ymosodiad, fe wnaeth ef ei hychwanegu ar Snapchat i barhau â'i gysylltiad â hi. Fe wnaeth y ddioddefwraig riportio'r trais rhywiol i Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig y diwrnod canlynol. Yn ddiweddarach y noson honno, galwodd Ahmed y ddioddefwraig ar Snapchat, gan ofyn iddi “Pryd ydych chi'n troi'n 16?” a “Wnest ti fwynhau ddoe?”.
Lai nag wythnos yn ddiweddarach, derbyniodd Heddlu Swydd Bedford adroddiad am ddigwyddiad yn ymwneud ag Ahmed Clywodd y llys sut, ar 16 Hydref 2023, y ceisiodd Ahmed ymgysylltu â merch, 15 oed, mewn gweithgaredd rhywiol. I ddechrau, fe wnaeth ymgysylltu â hi mewn sgwrs am ei gemwaith a'i threftadaeth, cyn i'r sgwrs ddod yn fwy bygythiol, gan ddweud wrth y ddioddefwraig fod gan bawb y gallu i ladd ac os oedd yn amharchus, gallai wneud i rywun ddiflannu gyda dim ond un neges destun neu alwad.
Yn dilyn hyn trodd y sgwrs at berthnasoedd, gan ofyn i’r ferch 15 oed am gyngor ar berthynas cyn gofyn iddi am ei statws perthynas ei hun a’i phrofiad rhywiol. Yna ceisiodd ef ei gorfodi i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol gydag ef. Diolch byth, roedd y ddioddefwraig ar ôl gallu gadael y sefyllfa a riportiodd hi Ahmed i Heddlu Swydd Bedford y diwrnod canlynol.
Ar 27 Hydref cafodd Ahmed ei arestio a’i gyhuddo o droseddau a gyflawnwyd ar 10 ac 11Hydref 2023. Roedd yr ymchwiliadau’n gysylltiedig, a chyhuddwyd Ahmed ymhellach o droseddau a gyflawnwyd ar 16 Hydref 2023.
Dywedodd y Swyddog Ymchwilio BTP, Ditectif Gwnstabl Matthew Nolan: “Mae Ahmed yn ysglyfaethwr dideimlad a dargedodd ferched ifanc at ei foddhad rhywiol ei hun. Er gwaethaf pledion mynych y ddioddefwraig iddo stopio, fe’i maglodd hi a’i threisio, gan wneud iddi ofni nid yn unig am ei diogelwch ei hun ond diogelwch ei ffrind hefyd. Gobeithio y bydd y dyfarniad euog yn cyfrannu rhywfaint at dawelu ei meddwl.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio BTP, Ditectif Arolygydd Paul Attwell: “Roedd y rhain yn brofiadau brawychus iawn i ddioddefwyr Ahmed, ac rwy’n eu canmol am ei riportio er mwyn i ni allu gweithredu. Ni fydd ymddygiad cymhellol a bygythiol Ahmed tuag at ferched ifanc, bregus byth yn cael ei oddef ar y rhwydwaith rheilffyrdd, nac yn unman arall ac rwy’n ddiolchgar o weld dyfarniad heddiw.”
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Rani Bailey, o dîm Diogelu Pobl sy'n Agored i Niwed (PVP) Heddlu Swydd Bedford: “Roedd ymddygiad Ahmed yn annerbyniol ac roedd ei weithredoedd yn rheibus. Rydym ynmynd ar drywydd y rhai sy’n meddwl bod yr ymddygiad hwn yn dderbyniol yn ddiflino, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddod â chyflawnwyr cam-drin o flaen eu gwell. Waeth beth a ddigwyddodd, os yw rhywun wedi gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus neu wedi amharchu'ch ffiniau, nid yw byth yn rhy hwyr i ddod ymlaen i riportio'r hyn sydd wedi digwydd i chi.”