Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:27 05/08/2021
Mae dyn 48 oed wedi cael dirwy o £500 am sarhau a bygwth aelod o staff y rheilffordd ar lafar yng ngorsaf Leeds.
Plediodd Ashley Senior, o Noster Grove, Leeds, yn euog i'r drosedd yn Llys Ynadon Leeds ar ddydd Mercher, 28 Gorffennaf a chafodd ei ddirwyo a'i ddedfrydu i orchymyn cymunedol tri mis gyda chyrffyw electronig.
Clywodd y llys sut, ar ddydd Sadwrn, 20 Chwefror eleni yng Ngorsaf Leeds, ceisiodd Senior deithio heb docyn. Pan ofynnwyd iddo gan ei ddioddefwr, aelod o staff rheilffordd Northern, i brynu tocyn, ymatebodd Senior ar unwaith ag ymddygiad ymosodol, sarhaus gan weiddi arno a bygwth neidio'r gatiau.
Wrth i Senior wasgu ei ddwrn a bygwth ymosod ar ei ddioddefwr, cerddodd yr aelod o staff i ffwrdd, gan ofni ei fod ar fin cael ei daro, ond dilynodd Senior, gan anelu ergyd ato a pharhau â'i fygythiadau i'w 'daro'n ymwybodol'.
Dywedodd y swyddog ymchwilio PC Sorcha Cantwell-Crook: "Roedd hwn yn brofiad brawychus i'r aelod o staff a oedd wir yn ofni am ei ddiogelwch, gan mor ddifrifol oedd bygythiadau Senior. Ni ddylid bygwth na gwneud unrhyw un i ofni am eu lles tra'n gwneud eu gwaith yn unig.
"Ni fydd unrhyw sarhau ar staff rheilffyrdd, naill ai ar lafar neu'n gorfforol byth yn cael ei oddef".
Dywedodd Tony Baxter, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Northern: "Yn anffodus, mae ein staff yn wynebu ymddygiad bygythiol a threisgar yn rhy aml o lawer tra'n ceisio gwneud eu gwaith; swydd sy'n canolbwyntio ar helpu ein cwsmeriaid i gyrraedd lle mae angen iddynt fod.
"Fel diwydiant, wrth i ni i gyd barhau i deimlo effaith coronafeirws, rydym yn gofyn i'n holl gwsmeriaid a chydweithwyr fod yn fwy ystyriol a charedig i'w gilydd. Ond, fel y mae'r achos hwn yn dangos, os bydd pobl yn parhau i ymddwyn mewn modd bygythiol, sarhaus neu dreisgar, byddwn yn gwneud popeth o'n gallu i helpu Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i'w dwyn i gyfiawnder."