Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:31 15/03/2022
Bydd dyn yn ymddangos yn y llys y bore yma (15 Mawrth) wedi’i gyhuddo mewn cysylltiad â throseddau o dan y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern (2015) a chyflenwi cyffuriau ar ôl i fachgen 17 oed gael ei ganfod yn meddu ar gyffuriau Dosbarth A a symiau mawr o arian parod ar rhwydwaith y rheilffordd.
Cafodd y llanc ei atal gan swyddogion o Dasglu Llinellau Sirol Heddlu Trafnidiaeth Prydain yng ngorsaf reilffordd Crewe ym mis Chwefror y llynedd.
Bydd Abdata Jamal, 20, ac o HMP Forest Bank, Manceinion, yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Manceinion ddydd Mawrth 15 Mawrth wedi’i gyhuddo o ddau achos o fasnachu mewn pobl o dan y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern a dau gyhuddiad o ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A.