Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:33 26/04/2021
Mae dau ddyn a ddaliwyd â 126 gram o heroin yn eu meddiant ac un gram o grac cocên ar fwrdd trên yn Swydd Gaerhirfryn wedi'u carcharu am wyth mlynedd a 10 mis cyfun.
Fe wnaed y darganfyddiad gan swyddogion Tasglu Llinellau Cyffuriau Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP).
Plediodd Andrew Hall, 46, o Anson Street, Barrow-in-Furness, a Daniel Dodd, 41, o ddim cyfeiriad sefydlog, yn euog i feddiant â’r bwriad i gyflenwi cyffuriau rheoledig o statws Dosbarth A yn Llys y Goron Preston ar 31 Mawrth 2021.
Ar ddydd Mercher 21 Ebrill 2021, fe wnaeth barnwr eu dedfrydu i gyfanswm o wyth mlynedd a 10 mis yn y carchar. Derbyniodd Hall bum mlynedd a chwe mis a derbyniodd Dodd dair blynedd a phedwar mis.
Am 7pm ar ddydd Mawrth 23 Chwefror, aeth swyddogion o Dasglu Llinellau Cyffuriau BTP ar fwrdd trên yn cyrraedd o Lerpwl yng ngorsaf Lancaster. Roedd y trên yn mynd tuag at Barrow-in-Furness
Wrth i'r swyddogion gerdded trwy'r trên fe wnaethant sylwi bod Hall a Dodd yn eistedd yn un o'r cerbydau, a gofynnwyd i Dodd pam nad oedd yn gwisgo gorchudd wyneb
Roedd y ddau ddyn yn ymddangos yn simsan, felly gofynnodd y swyddogion iddynt adael y gwasanaeth.
Yna aethpwyd â Hall i un ochr cyn iddo geisio rhedeg i ffwrdd oddi wrth y swyddogion yn aflwyddiannus.
Pan ofynnwyd i Dodd pam bod Hall yn ceisio dianc, nododd fod Hall yn cario rhywbeth ym mhoced ei gôt.
Wedyn, chwiliwyd Hall o dan Adran 23 o'r Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau a darganfu'r swyddog chwilio heroin ym mhoced allanol ei got.
Chwiliwyd Dodd hefyd o dan Adran 23 Deddf Camddefnyddio Cyffuriau a daethpwyd o hyd i fag seloffen o heroin ym mhoced ei gôt hefyd.
Roedd gan y ddau ddyn hefyd fwy na £500 mewn arian parod ac fe'u harestiwyd ar amheuaeth o feddiant â'r bwriad o gyflenwi sylwedd o statws Dosbarth A a'i gludo i ddalfa'r heddlu.
Roedd y cyffuriau a atafaelwyd yn cynnwys 126 gram o heroin ac un gram o grac cocên. Amcangyfrifodd arbenigwr fod gwerth stryd bras y cyffuriau ychydig yn llai na £6,000.
Dywedodd Ditectif Arolygydd BTP, Matt Davies: “O ystyried faint o gyffuriau ac arian a ganfuwyd gan ein swyddogion ym meddiant Hall a Dodd, mae’n amlwg eu bod yn delio â’r cyffuriau hyn er eu budd ariannol eu hunain.
“Mae gwaith rhagweithiol da’r swyddogion ar y diwrnod hwnnw wedi arwain at ddau ddyn yn treulio amser hir y tu ôl i fariau a chryn dipyn o gyffuriau allan o gylchrediad.
“P'un a ydych chi'n ein gweld ai peidio, mae swyddogion ein Tasglu Llinellau Cyffuriau mewn iwnifform a dillad plaen yn patrolio'r rhwydwaith rheilffyrdd yn ddyddiol i atal troseddwyr rhag ei ddefnyddio i gludo cyffuriau ac arian anghyfreithlon rhwng lleoliadau.
“Os ydych chi'n gweld rhywbeth nad yw'n edrych yn iawn, rhowch wybod i ni trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 .. Mewn argyfwng, deialwch 999 bob amser.”
Cafodd Tasglu Llinellau Cyffuriau BTP - tîm heddlu sy’n ymroddedig i fynd i’r afael â throseddwyr trefnedig sy’n defnyddio’r rheilffordd i gludo cyffuriau - ei sefydlu â chyllid y Swyddfa Gartref ym mis Rhagfyr 2019.
Nod allweddol y tîm yw nodi a diogelu plant ac oedolion agored i niwed sy'n aml yn cael eu camddefnyddio gan y troseddwyr trefnedig hyn i gludo cyffuriau ac arian parod rhwng lleoliadau mewnforio ac allforio, a all fod gannoedd o filltiroedd ar wahân.