Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:44 16/07/2021
Mae dyn a drywanodd ferch 16 oed yn y goes wedi iddi wrthod rhoi ei rhif iddo wedi cael ei garcharu am 62 mis yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP).
Ymddangosodd Desmond Brooks, 19, ac o ddim cyfeiriad sefydlog, yn Llys y Goron Llundain Fewnol ar ddydd Mawrth 11 Mai lle plediodd yn euog i un cyfrif o niwed corfforol difrifol gyda bwriad ac un cyfrif o ymosodiad cyffredin a waethygwyd yn hiliol yn.
Ar ddydd Gwener 2 Gorffennaf, fe'i dedfrydwyd gan farnwr i bum mlynedd a dau fis o garchar – 56 mis am niwed corfforol difrifol gyda bwriad a chwe mis ar gyfer ymosodiad cyffredin a waethygwyd yn hiliol.
Clywodd y llys sut, ar fore 20 Hydref 2020, yr aeth Brooks at ferch 16 oed a'i ffrind gwrywaidd ar y stryd fawr y tu allan i orsaf Danddaearol Harrow on the Hill a gofyn am ei rhif ffôn a'i henw defnyddiwr snapchat.
Dywedodd y pâr wrth Brooks am eu gadael ar eu pennau'u hunain cyn iddo fynd yn sarhaus, gan ddweud y byddai'n eu "torri" ac yn eu "sieffio".
Yna, fe'u dilynodd i'r orsaf Danddaearol a dechreuodd wneud sylwadau hiliol i'r dyn, a drodd o gwmpas a'i wynebu. Ymatebodd Brooks drwy ei bwnsio yn yr wyneb.
Roedd y ferch yn ymgodymu â Brooks cyn iddo ei thrywanu yn y glun a rhedeg allan o'r orsaf.
Fe'i cymerwyd i ysbyty lleol lle cafodd chwe phwyth yn ei choes.
Wedyn cafodd Brooks ei adnabod, ei leoli a'i arestio gan swyddogion cyn cael ei gludo i ddalfa'r heddlu i'w holi.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl, David Graney: "Roedd hon yn weithred filain a di-synnwyr o drais ac mae'n ffodus na chafodd dioddefwraig 16 oed Brooks ei hanafu'n fwy difrifol.
"Nid oes lle i droseddau treisgar sydd wedi'u gwaethygu'n hiliol ar y rheilffordd ac mae'r ddedfryd a roddwyd i Brooks yn anfon neges glir am ganlyniadau troseddau o'r fath.
"Rwy'n hapus i weld y bydd yn treulio'r dyfodol rhagweladwy y tu ôl i fariau – mae wedi dangos ei fod yn unigolyn treisgar a pheryglus.
"Diolch byth, mae digwyddiadau fel hyn yn eithriadol o brin ar y rhwydwaith rheilffyrdd."