Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:17 10/01/2023
Mae dyn canol oed wedi'i ddal yn olwyno cês yn llawn canabis wedi cael ei garcharu am ddwy flynedd a saith mis yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP).
Cafodd ei atal gan swyddogion dillad plaen o Dasglu Llinellau Sirol BTP wrth iddo gerdded yn hamddenol drwy orsaf Birmingham New street ym mis Mai 2022.
Plediodd Mahn Van Phan, 41, ac o Sylvan Road, Llundain, yn euog i fod â sylwedd Dosbarth B yn ei feddiant gyda'r bwriad o gyflenwi.
Cafodd ei ddedfrydu i ddwy flynedd a saith mis o garchar gan farnwr yn Llys y Goron Birmingham ar ddydd Gwener 6 Ionawr.
Ar fore 11 Mai 2022, aeth Phan i mewn i orsaf Gorllewin Canolbarth Lloegr a phrynu tocyn rheilffordd i Aberdeen ag arian parod.
Yna derbyniodd BTP adroddiad testun yn datgan bod Phan yn ymddwyn yn amheus, ac fe aeth swyddogion dillad plaen i'r orsaf yn gyflym a'i leoli ar un o'r platfformau.
Yn dilyn sgwrs fer, chwiliwyd ei fagiau, a darganfu swyddogion fagiau pecynnau dan wactod o ganabis yn ei gês a'i rycsac.
Cyfanswm pwysau'r canabis roedd Phan yn ei gymryd i Aberdeen oedd 7.4kg.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Mohit Behl, swyddog ymchwilio yn yr achos,: "Roedd hwn yn ymgais arbennig o haerllug i symud cyffuriau ledled y DU gan ddefnyddio'r rhwydwaith rheilffyrdd.
"Rydym yn defnyddio unedau arbenigol, gan gynnwys swyddogion dillad plaen a chŵn cyffuriau, ar y rheilffordd bob dydd i fynd i'r afael â gweithgarwch llinellau cyffuriau. Mae unrhyw un sy'n ceisio symud nwyddau ar y rheilffordd yn y modd hwn yn hynod naïf – byddwn yn eich dal ac yn eich dwyn o flaen eich gwell.
"Hoffwn ddiolch i staff rheilffordd yn Birmingham New Street y diwrnod hwnnw a riportiodd Phan, a'r llysoedd am roi tymor carchar digon cryf.
"Os ydych chi'n sylwi ar unrhyw beth sy'n ymddangos yn amheus wrth i chi deithio ar y rheilffordd, riportiwch ef i ni trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40."