Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tri dyn wedi’u dedfrydu i gyfanswm o bedair blynedd a dau fis yn y carchar, a phedwerydd dyn wedi derbyn naw mis, wedi’i ohirio, yn dilyn anhrefn ar ôl gêm bêl-droed. Maen nhw hefyd wedi cael eu gwahardd rhag mynychu gemau pêl-droed am 21 mlynedd at ei gilydd.
Cafodd y pedwar dyn eu dedfrydu yn Llys y Goron Caer ar ddydd Iau 18 Ebrill ar ôl i bob un bledio’n euog i affrae ar 28 Rhagfyr y llynedd.
Dedfrydwyd Grant Coiley, 32 oed, o Samuel Armstrong Way, Crewe, i 18 mis ynghyd â gorchymyn gwahardd pêl-droed chwe blynedd, a gorchmynnwyd iddo dalu £187 i wasanaethau tystion.
Cafodd Robbie Ledsham, 29 oed, o Walthall Street, Crewe, hefyd ei ddedfrydu i 18 mis ynghyd â gorchymyn gwahardd pêl-droed chwe blynedd, a gorchmynnwyd iddo dalu £187 i wasanaethau tystion.
Dedfrydwyd Oliver Edwards, 28 oed, o Festival Close, Stoke-On-Trent, i 14 mis ynghyd â gorchymyn gwahardd pêl-droed chwe blynedd, a gorchmynnwyd iddo dalu £187 i wasanaethau tystion.
Dedfrydwyd Eliot Jones, 18 oed, o Catherine Street, Crewe, i naw mis, wedi ei ohirio am 18 mis. Derbyniodd hefyd orchymyn gwahardd pêl-droed tair blynedd, a gorchmynnwyd iddo gwblhau gorchymyn adsefydlu 20 diwrnod, ynghyd â 100 awr o waith di-dâl ac i dalu £41 i wasanaethau tystion.
Clywodd y llys sut, ar 1 Ionawr 2023, am oddeutu 6.20pm, yn dilyn gêm bêl-droed rhwng Crewe Alexandrea a Tranmere Rovers yn Stadiwm Mornflake Crewe, roedd cefnogwyr Tranmere Rovers yn dychwelyd trwy orsaf reilffordd Crewe. Wrth weld y cefnogwyr, fe wnaeth Coiley, Ledsham, Edwards, a Jones eu targedu a'u cythruddo i ymladd, gan siglo gwregysau a thaflu dyrnodiau. Gorfodwyd staff y rheilffordd i dynnu caeadau i lawr er eu diogelwch a gwelwyd rhieni'n tynnu eu plant i ffwrdd o'r ardal.
Dywedodd y swyddog ymchwilio PC Stephen Hardy: “Mae gweithredoedd y dynion hyn nid yn unig wedi rhoi’r cefnogwyr oedd yn ymweld mewn perygl, ond hefyd wedi peryglu diogelwch staff y rheilffordd a theithwyr yn yr orsaf y diwrnod hwnnw. Ni fydd trais o unrhyw fath sy’n gysylltiedig â phêl-droed yn cael ei oddef ar y rhwydwaith rheilffyrdd ac rwy’n gobeithio y bydd y dedfrydau hyn, ynghyd â’r gorchmynion gwahardd pêl-droed, yn rhoi digon o amser i’r dynion hyn fyfyrio ar eu gweithredoedd.
“Os bydd unrhyw un yn gweld neu’n profi’r math hwn o ymddygiad ar y rhwydwaith rheilffyrdd, rwy’n eu hannog i'w riportio i ni drwy decstio 61016 yn bwyllog, neu ffonio 999 mewn argyfwng, fel y gallwn ni weithredu.”
Images L to R (Coiley, Ledsham, Edwards).