Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 38 oed a darodd gyrrwr tacsi yn ei wyneb gyda photel wedi'i thorri gan achosi creithiau parhaol wedi'i garcharu am fwy na thair blynedd yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Plediodd Craig Davies, o Elizabeth Street, Burnley, yn euog i glwyfo’n fwriadol a chafodd ei ddedfrydu i 40 mis o garchar yn Llys y Goron Lerpwl ar ddydd Llun, 22 Ebrill.
Clywodd y llys fod Davies, a oedd wedi meddwi, yn cario potel o win ac yn ysmygu sigarét am oddeutu 8am ar ddydd Mawrth 16 Awst 2022 pan aeth at gab y dioddefwr a oedd wedi’i barcio yn y safle tacsi yng ngorsaf Liverpool Lime Street.
Gwrthododd y gyrrwr y cwsmer o ystyried lefel weladwy o feddwdod Davies ac ymatebodd Davies iddo trwy regi arno a cheisio mynd yn sedd flaen y teithiwr. Wrth sylweddoli bod y drws wedi'i gloi, dechreuodd ergydio'r ffenestr gyda'i ben.
Gan ofni y byddai'r gwydr yn malu, cododd y gyrrwr, a oedd yn 62 oed ar adeg yr ymosodiad, allan o'r car a wynebu Davies a darodd y botel win gwydr yr oedd yn ei chario ar bolard metel a'i dorri ar draws ei wyneb.
Cafodd Davies ei adnabod gan y dioddefwr ychydig funudau’n ddiweddarach ac fe wnaeth swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ei arestio ar amheuaeth o ymosod.
Dywedodd y swyddog ymchwilio DC Juliet Thomas: “Roedd hwn yn ymosodiad brawychus ar ddyn a oedd ond yn ennill bywoliaeth ac yn ceisio amddiffyn ei eiddo. Mae’r dioddefwr wedi cael ei adael mewn trawma gan yr hyn a ddigwyddodd ac mae’n teimlo’n nerfus wrth wneud ei waith bob dydd, hyn yn ogystal â’r creithiau parhaol ar yr wyneb a achoswyd gan Davies yn ei gynddaredd o dan alcohol.
“Nid yw bod yn feddw a honni nad oes ganddo lawer o gof o ymosodiad mor ddieflig yn amddiffyniad fel y dangosir yn glir gan y ddedfryd a roddwyd gan y llysoedd.”