Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:27 07/09/2021
Mae dyn wedi’i garcharu ar ôl gyrru i lawr y cledrau ger gorsaf reilffordd Duddeston, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Cafwyd Aaron O’Halloran, 31, o Thornbury Road, Handsworth, yn euog o beryglu pobl ar y rheilffordd, gyrru’n beryglus, gyrru wrth gael eu gwahardd, a defnyddio cerbyd heb yswiriant.
Cafodd ei ddedfrydu i gyfanswm o 15 mis o garchar a’i orchymyn i dalu gordal dioddefwr o £156 yn Llys y Goron Birmingham ar ddydd Llun 23 Awst.
Clywodd y llys sut, tua 7.30am ar 9 Mai 2021, y gyrrodd O’Halloran y car trwy giât yng ngorsaf Duddeston a theithio hanner milltir i lawr y cledrau rheilffordd tuag at Aston. Yna gadawodd y cerbyd ar draws y cledrau a ffoi o'r fan. Daeth swyddogion o hyd i ffôn symudol y tu mewn i'r car a'i olrhain yn ôl iddo.
Arweiniodd y digwyddiad at ddifrod o hyd at £23,000 i'r rheilffordd ac oedi teithwyr o hyd at wyth awr.
Mewn cyfweliad gwrthododd O’Halloran wneud sylw ar y digwyddiad, gan ddim ond yn gwadu mai ef oedd yn gyrru’r cerbyd pan ddangoswyd lluniau teledu cylch cyfyng iddo.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Raymond Ascott: “Roedd hon yn weithred hynod beryglus a disynnwyr gan O’Halloran a achosodd risg sylweddol i deithwyr a difrod i’r rheilffordd.
“Mae’r ddedfryd a roddwyd iddo yn adlewyrchu difrifoldeb y drosedd hon ac rydym yn ddiolchgar na anafwyd neb o ganlyniad i ymddygiad brawychus O’Halloran.
“Bellach bydd ganddo ddigon o amser i fyfyrio ar ei weithredoedd hurt yn y carchar.”