Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:38 13/02/2020
Troseddwr rhyw a euogfarnwyd yn cael ei garcharu eto ar ôl torri gorchymyn atal
Plediodd Steven Kavuma, 20, o Raleigh Street, Nottingham, yn euog i dorri gorchymyn atal yn Llys y Goron Derby ar 6 Chwefror. Dedfrydodd y barnwr ef i 15 mis o garchar.
Ar 7fed Ionawr 2020, byrddiodd Kavuma drên yng ngorsaf Hucknall a mynd at fenyw a oedd yn teithio ar ei phen ei hun.
Fe wnaeth ei phwyso dro ar ôl tro a cheisio ei chynnwys mewn sgwrs, gan beri i'r fenyw fynd yn ofidus. Riportiodd ei ymddygiad i gard y trên a chysylltodd ef â'r heddlu.
Gwiriodd swyddogion deledu cylch cyfyng gan nodi Kavuma o'r ffilm yn gyflym. Roedd wedi cael ei ryddhau o’r carchar ar 3ydd Ionawr ar ôl ei gael yn euog o gyfres o droseddau rhywiol ar drenau yn yr un ardal.
Ar ôl ei ryddhau, roedd wedi bod yn destun gorchymyn ataliol a oedd yn gwahardd teithio ar unrhyw wasanaeth rheilffordd uniongyrchol rhwng Nottingham a Worksop rhwng 5am a 10am, a 3pm a 7pm.
Yn dilyn y digwyddiad rhwng gorsafoedd Hucknall a Langwith, arestiodd swyddogion ef yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw ar amheuaeth o dorri ei orchymyn ataliol, a chafodd ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad llys.
Dywedodd y Ditectif Rhingyll Ian Wright: “Mae Kavuma yn amlwg yn droseddwr peryglus a pharhaus, sydd â llinyn o euogfarnau am dargedu menywod unigol ar drafnidiaeth gyhoeddus.
“Rwyf yn teimlo rhyddhad, fel yr wyf yn gwybod y bydd ei ddioddefwyr, o’i weld yn ôl yn y carchar a gobeithio bod ei ddedfryd o garchar yn anfon neges glir am ddifrifoldeb torri gorchmynion llys.
“Diolch byth ein bod wedi gallu adnabod Kavuma'n gyflym iawn yn dilyn y digwyddiad diweddaraf a dod ag ef yn ôl gerbron y llysoedd.
“Rydym yn cymryd pob adroddiad o ymddygiad rhywiol digroeso o ddifrif a’n blaenoriaeth lwyr yw tynnu’r mathau hyn o droseddwyr oddi ar y rheilffordd.