Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:28 03/02/2022
Mae menyw a yrrodd ei Ford Fiesta i'r rheilffordd tra'n feddw wedi cael ei dedfrydu, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP).
Ymddangosodd Tayler Barnham, 29, ac o Guinevere Terrace, Rochester, yn Llys Ynadon Folkestone ar 11 Ionawr lle plediodd yn euog i un cyfrif o yrru heb ofal a sylw dyladwy ac un cyfrif o yfed a gyrru.
Ar ddydd Mercher 2 Chwefror, fe wnaeth barnwr yn Llys Ynadon Medway ei dedfrydu i wyth wythnos wedi'i ohirio am ddwy flynedd. Cafodd ei hanghymhwyso rhag gyrru am ddwy flynedd ac mae'n ofynnol iddi fod ar gyrffiw rhwng 7pm a 7am am dri mis.
Cafodd orchymyn hefyd i dalu costau gwerth cyfanswm o £213.
Clywodd y llys fod Barnham yn gyrru ei Ford Fiesta drwy gefn gwlad Caint ar nos Sadwrn 29 Mai 2021 ac wedi mynd at groesfan lefel ar Monkshill Road ger Faversham.
Wrth iddi yrru dros y groesfan lefel ychydig cyn hanner nos, mae hi wedi gwyro i'r chwith i'r rheilffordd fyw.
Fe wnaeth lluniau teledu cylch cyfyng gipio'r foment y gwnaeth ei char gysylltiad â'r trydydd cledren gan achosi gollyngiad trydanol cyn dod i stop sydyn.
Yna, gwelodd gyrrwr trên teithwyr a oedd yn agosáu brif oleuadau'r car a bu'n rhaid iddo ddefnyddio breciau argyfwng y trên er mwyn osgoi taro'r Fiesta disymud.
Cafodd BTP alwad gan y gyrrwr yn adrodd bod y car ar y cledrau ychydig funudau'n ddiweddarach.
Yna aeth Barnham ymlaen i wneud galwadau i'w theulu a'i ffrindiau cyn i swyddogion gyrraedd y groesfan lefel a'i harestio.
Cafodd sampl anadl ei chymryd yn nalfa'r heddlu a gwelwyd ei bod fwy na thair gwaith dros y terfyn yfed a gyrru.
Ar ôl i'r car gael ei dynnu o'r rheilffordd, fe wnaeth swyddogion leoli can cwrw gwag ar y llawr.
Yn ei chyfweliad y bore canlynol, rhoddodd Barnham ddatganiad a baratowyd ymlaen llaw i dditectifs lle honnodd nad oedd yn gyrru'r car ond ei bod yn y sedd i deithwyr yn cyfarwyddo'r gyrrwr.
Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, ym mis Medi 2021, cyfaddefodd mai hi oedd gyrrwr y car ar noson y digwyddiad.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Mike Ganly: "Gallai penderfyniad byrbwyll Barnham y noson honno fod wedi arwain at ganlyniadau trasig. Nid yn unig y rhoddodd ei hun mewn perygl difrifol, achosodd risg sylweddol i ddiogelwch y teithwyr ar y trên a oedd yn agosáu.
"Rwy'n gobeithio y bydd lluniau ei gweithredoedd annoeth a'i herlyniad yn rhybudd llwm i unrhyw un a allai ystyried gyrru neu gamu ar y cledrau.
"Dydy'r rheilffordd ddim yn faes chwarae - mae ganddi lawer o beryglon cudd. Nid yn unig ydych chi'n wynebu'r risg o gael eich taro gan drên sydd yn agosáu ond mae'r trydydd cledren wedi'i drydaneiddio yn cario 750 folt - digon i'ch lladd."