Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:38 14/10/2020
Mae lleidr haerllug a geisiodd ddwyn o feic ac y canfuwyd ei fod â chyllell yn ei feddiant wedi cael ei ddedfrydu i chwe mis o garchar.
Plediodd Robert Thomas, 34, ac o ddim cyfeiriad sefydlog, yn euog i feddu ar erthygl pigfain neu lafnog ar ddydd Iau 6 Awst yn Llys Ynadon Gogledd Llundain.
Ar ddydd Mercher 30 Medi yn Llys y Goron Llundain Fewnol, fe wnaeth barnwr ei ddedfrydu i chwe mis yn y carchar. Mae'n ofynnol iddo hefyd dalu gordal dioddefwr o £128 ac mae wedi cael Gorchymyn Ymddygiad Troseddol (CBO).
Am 3.45pm ar ddydd Mercher 5 Awst, aeth aelod o’r cyhoedd at swyddog a oedd yn patrolio y tu allan i orsaf reilffordd Euston, Gogledd Llundain, ac adroddodd fod Thomas yn ymyrryd â bag ynghlwm wrth feic.
Yna aeth y swyddog at Thomas a'i chwilio. Wrth iddo gael ei chwilio, cyfaddefodd Thomas fod cyllell Stanley yn ei feddiant.
Atafaelwyd y gyllell gan y swyddog ac arestiwyd Thomas wedi hynny am fod ag erthygl pigfain neu lafnog yn ei feddiant.
Dywedodd Rhingyll Heddlu BTP, David Underwood: “Mae Thomas wedi’i gael yn euog o sawl trosedd gwrthgymdeithasol dros y flwyddyn ddiwethaf ac nid yw cario cyllell mewn man cyhoeddus byth yn dderbyniol.
“Byddwn yn parhau i ddelio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gadarn ac yn sicrhau bod Gorchmynion Ymddygiad Troseddol yn cael eu cyhoeddi i atal troseddwyr parhaus.
“Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng yr euogfarn ag ‘Ymgyrch Mammoth ’- ymgyrch ar y cyd rhwng BTP, yr Heddlu Metropolitanaidd a Chyngor Camden i frwydro yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol a achosir gan boblogaeth y strydoedd.
“Prif nod yr ymgyrch yw cartrefu a chefnogi unigolion fel Thomas. Os yw aelodau’r cyhoedd yn poeni am les unigolyn, siaradwch ag aelod o staff neu cysylltwch â BTP. ”