Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:14 03/08/2022
Mae dyn wedi'i garcharu am ddwyn dau feic o fewn oriau i'w gilydd o orsaf Efrog.
Cafodd Luke Ellerby, 41 oed, o CEM Humber ei ddedfrydu i wyth wythnos o garchar ar ôl iddo bledio'n euog i ddau achos o ddwyn ar ddydd Iau 21 Gorffennaf, yn Llys Ynadon Efrog.
Fe'i gorchmynnwyd hefyd i dalu gordal dioddefwr o £128.
Clywodd y llys sut ar ddydd Mawrth 2 Tachwedd y llynedd, aeth Ellerby at y raciau beiciau am y tro cyntaf yn y maes parcio arhosiad byr yng ngorsaf Efrog ar feic gwthio cyn rei adael a reidio i ffwrdd ar feic yr oedd wedi'i ddwyn.
Yn ddiweddarach yr un diwrnod dychwelodd Ellerby i'r raciau beiiauc, y tro hwn ar droed, a dwyn beic arall.
Dywedodd tystion eu bod wedi gweld Ellerby yn loetran o amgylch y raciau beiciau cyn i berchnogion y beiciau ddychwelyd o'u cymudo i weld bod eu beiciau wedi'u dwyn.
Swyddog ymchwilio Sgt Rebecca Murphy Meddai: "Roedd hyn yn dwyn ar ei fwyaf digywilydd. Doedd dim ots gan Ellerby pwy welodd ef pan wnaeth e helpu ei hun i'r beiciau i bob pwrpas. Gobeithio y bydd dedfryd o garchar yn wers iddo gadw ei ddwylo oddi ar eiddo a enillwyd yn galed gan bobl eraill."