Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:36 11/01/2021
Mae dyn a fygythiodd ac a wnaeth sarhau aelodau o staff rheilffyrdd yn hiliol yng ngorsaf reilffordd Amwythig wedi cael ei garcharu am gyfanswm o 20 wythnos, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Cafwyd Kevin Byrne, 59, ac o Sandford Avenue, Church Stretton, yn euog o achosi ofn gwaethygedig ar sail hil neu bryfocio trais yn Llys Ynadon Telford ar 25 Tachwedd 2020.
Am oddeutu 5.30pm ar 13 Tachwedd 2019, gofynnodd aelod o staff y rheilffordd i Byrne am docyn wrth iddo geisio gadael trwy'r rhwystrau yng ngorsaf reilffordd Amwythig.
Clywodd y llys sut y gwnaeth Byrne fygwth yr aelod o staff y rheilffordd pan nad oedd yn gallu cynhyrchu tocyn, gan ddweud “Rwy’n mynd i hollti eich gwddf. Os achoswch i mi gael fy arestio, rwy'n mynd i'ch trywanu. ”
Daeth Byrne yn fwyfwy ymosodol gan sarhau'r aelod o staff y rheilffordd yn hiliol am fod yn Gymreig. Aeth ymlaen i fygwth aelod arall o staff y rheilffordd, gan weiddi “rydych chi'n ddyn marw.”
Ar 31 Rhagfyr 2020 yn Llys Ynadon Kidderminster, dedfrydwyd Byrne i gyfanswm o 20 wythnos yn y carchar a’i orchymyn i dalu cyfanswm o £1,315 mewn iawndal.
Meddai Rhingyll BTP, Emma Harper: “Ni fydd ymddygiad bygythiol tuag at aelodau staff y rheilffordd yn cael ei oddef o dan unrhyw amgylchiadau.
“Rwy’n ddiolchgar i’r llysoedd am y ddedfryd a osodwyd ar y diffynnydd ac yn gobeithio ei bod yn ein hatgoffa na fydd y math hwn o ymddygiad yn cael ei oddef ar y rheilffordd
“Byddwn yn parhau i ddelio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gadarn ac yn sicrhau bod troseddwyr yn cael eu dwyn o flaen eu gwell."