Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:39 23/09/2020
Mae llabwst a ymosododd ar aelod o staff London Underground yng ngorsaf Cockfosters wedi cael ei ddedfrydu i dair blynedd yn y carchar.
Ymddangosodd Stanley Oragui, 43, o Kentish Town Road, Llundain, yn Llys y Goron Southwark ar 2 Medi wedi’i gyhuddo o ymosod, torri dwy ddedfryd ohiriedig, a throsedd ar wahân o ddwyn o siopau.
Dedfrydodd y barnwr ef i dair blynedd yn y carchar.
Ar noson Sul 26 Ebrill yng ngorsaf Danddaearol Cockfosters, roedd trên ar blatfform pedwar i fod i fynd allan o wasanaeth.
Galwyd aelod o staff London Underground i fynychu gan fod Oragui yn gwrthod gadael y trên.
Gofynnodd yr aelod o staff i Oragui adael y trên a oedd yn mynd i'r depo, a gwrthododd eto.
Yna cododd yr aelod o staff fag siopa Tesco Oragus a dechrau cerdded oddi ar y trên yn y gobaith y byddai’n ei ddilyn. Yna taflodd Oragui ddau ddyrnod at yr aelod o staff, gan ei daro y tu ôl i'r glust cyn tynnu ffôn yr aelod o staff o'i boced crys uchaf - gan ei rwygo - a thaflu'r ffôn i blatfform arall.
Yna gadawodd Oragui yr orsaf a byrddio bws ar y ffordd i Potters Bar. Stopiodd swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig y bws ar Ffordd Cockfosters, gan adnabod Oragui a chafodd ei arestio a’i gyhuddo o ymosod cyffredin.
Cyhoeddwyd gwarant i’w arestio ar ôl iddo fethu â mynychu’r llys, ac fe’i arestiwyd am yr eildro ar ddiwedd mis Awst.
Dywedodd yr Arolygydd wedi'i Ymwreiddio o TfL, Mullah Hoque: “Roedd hwn yn weithredwrthun a ffiaiddo drais yn erbyn aelod diarwybod o staff London Underground, a oedd yn cyflawni eu dyletswyddau beunyddiol.
“Nid oes bythesgus dros ymddygiad o’r math hwn, yn arbennig mewn ymateb i’rcais syml i adael trên - ni fyddwn yn goddef unrhywfath odrais ar y rhwydwaith trafnidiaeth, ac rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid i ddileu'r mathau hyn o sefyllfaoedd. "
“Mae’r math hwn o ganlyniad ar ôl ymchwiliad cymhleth yn dangos yn union beth yw ein hymrwymiad i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell, yn wir.”
“Hoffwn ddiolch i’r dioddefwr am ei gydweithrediad drwyddo draw, a dymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd Siwan Hayward, Cyfarwyddwraig Cydymffurfedd, Plismona ac Ar y Stryd yn Transport for London (TfL):“Rydym yn croesawu euogfarn Stanley Oragui. Mae gan ein holl staff, sy'n gweithio'n galed i ddarparu gwasanaeth cludiant diogel a dibynadwy i gwsmeriaid, yr hawl i gyflawni eu dyletswyddau heb ofni ymosodiad nac unrhyw fath arall o gam-drin.
“Mae’r euogfarn hon yn ein hatgoffa o’n hymagwedd dim goddefgarwch a’n bod yn pwyso am y dedfrydau cryfaf i’r rhai sy’n niweidio ein staff.”