Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:46 11/12/2020
Cafwyd Mohammed Ahmed, 19, ac o Bishops Grove, Hampton a Mosaab Berrada, 19, o CEM Wormwood Scrubs yn euog o geisio llofruddio yn Llys y Goron Isleworth ym mis Chwefror eleni.
Cafwyd Ahmed hefyd yn euog o fod â dryll yn ei feddiant â'r bwriad o beryglu bywyd, a phlediodd yn euog i feddiant â'r bwriad o gyflenwi cyffuriau dosbarth A.
Cafwyd Berrada hefyd yn euog o'r cyfrif o feddu ar arf tanio a bwledi a phlediodd yn euog o feddiant â'r bwriad o gyflenwi cyfffuriau Dosbarth A.
Ddoe, fe wnaeth barnwr eu dedfrydu i 21 mlynedd yr un. Bydd Berrada yn gwasanaethu o leiaf pymtheng mlynedd a bydd Ahmed yn gwasanaethu o leiaf pedair blynedd ar ddeg cyn bod yn gymwys i'w ryddhau ar drwydded estynedig.
Cafwyd trydydd dyn, llanc 18 oed, hefyd yn euog o geisio Niwed Corfforol Difrifol a'i ddedfrydu i dair blynedd ar ddeg yn y carchar ar 23 Gorffennaf eleni.
Ar 17 Rhagfyr 2018 am oddeutu 2.40pm galwodd y dioddefwr, dyn 19 oed, a dyn arall dacsi i'w codi o orsaf Isleworth gerllaw. Pan gyrhaeddodd y tacsi yr orsaf, sylwodd y gyrrwr fod Chartsrivisej mewn ffrae ar lafar gyda'r ddau ddyn wrth y peiriant tocynnau.
Aeth y dioddefwr a’r dyn arall i mewn i'r tacsi, ac wrth iddo troi sylwodd y gyrrwr ar Chartsrivisiej yn siarad â grŵp o ddynion a oedd wedi ymddangos o lwybr bach ac a oedd yn ystumio tuag at y tacsi. Yna symudodd Ahmed i sefyll o flaen y cerbyd, gan dynnu gwn llaw du â distewyd arian.
Clywodd y llys fod y dioddefwyr yn gweiddi “helpwch ni, ewch â ni i ffwrdd oherwydd eu bod nhw'n mynd i'n lladd ni!”.
Gan gredu ei fod yn mynd i gael ei saethu, gyrrodd gyrrwr y tacsi ar gyflymder tuag at Ahmed gan achosi iddo symud i ochr y tacsi.
Yna fe daniodd y gwn ddwywaith wrth ffenestr ochr y cefn, gan fethu'r dioddefwr a'r teithiwr arall, ac yn gadael trwy'r ffenestr ar y llaw dde, gan adael dau dwll yn y ffenestri tua 10cm oddi wrth ei gilydd.
Funudau'n ddiweddarach, chwalodd y gwydr yn y ffenestri gan gwympo allan.
Llwyddodd y tacsi i yrru'n gyflym i ddiogelwch a rhybuddio'r heddlu am yr hyn a ddigwyddodd, tra bod Ahmed a Berrada wedi ffoi o'r lleoliad ar feiciau.
Mynychodd swyddogion arbenigol y lleoliad a chanfuwyd cas cetris ynghyd â chyllell ddu mewn gwain. Yn dilyn nifer o ymholiadau helaeth, cafodd y tri dyn eu hadnabod trwy deledu cylch cyfyng a'u harestio.
Cynhaliodd cydweithwyr o’r Heddlu Metropolitanaidd warant chwilio ar gartref Berrada lle canfuwyd tri arf tanio wedi’u cuddio mewn gwyntyll echdynnu yn y gegin. Archwiliwyd gwn llaw yn fforensig a'i gysylltu â'r arf a ddefnyddiwyd ym maes parcio'r orsaf. Credir i Berrada ddanfon y gwn i Ahmed ar y prynhawn hwnnw.
Yn ei sylwadau dedfrydu yn y llys ddoe, dywedodd y barnwr: “Roedd eich troseddu yn gyfystyr ag ymgais i ladd un arall trwy danio gwn i mewn i gar yn agos iawn. Roedd hon yn drosedd ddifrifol."
Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Gary Richardson: “Roedd hwn yn ddigwyddiad syfrdanol o haerllug ac mae’n gwbl annychmygol i mi y byddai unrhyw un yn ystyried cario arf angheuol o’r fath, heb sôn am ddewis ei danio wedyn mewn maes parcio gorsaf brysur yng nghefn dydd golau.
Gallai'r canlyniadau fod wedi bod yn angheuol yn hawdd, nid yn unig i'r dioddefwr a theithwyr eraill y tacsi, ond i aelodau dirifedi'r cyhoedd, gan gynnwys plant ifanc, a oedd yn mynd heibio ar y pryd. Ni allaf ddychmygu sut brofiad dychrynllyd y mae'n rhaid bod hyn wedi bod iddynt, ac eto nid yw Ahmed wedi dangos unrhyw edifeirwch am ei weithredoedd ar unrhyw gam o'r ymchwiliad.
Rydym wedi gweithio’n ddiflino gyda’n cydweithwyr o’r Heddlu Metropolitanaidd i’w adnabod ef a Berrada a dod â nhw gerbron y llys ddoe.
Diolch byth, mae digwyddiadau yn ymwneud ag arfau tanio ar y rhwydwaith rheilffyrdd yn brin iawn. Fodd bynnag, pan ydynt yn digwydd mae canlyniadau difrifol a dylai'r ddedfryd sylweddol hon gynorthwyo i atal unrhyw un sy'n bwriadu cario arfau o'r fath neu eu defnyddio ar gyfer trais o'r fath."
Dywedodd Prif Arolygydd yr Heddlu Metropolitanaidd Richard Watkinson:"Mae hwn yn ganlyniad rhagorol, ac mae'n tanlinellu pa mor ddiflino y bydd y Met yn gweithio gydag asiantaethau partner i yrru trais oddi ar ein strydoedd. Gadawodd y digwyddiad hwn lawer o ofn yn y gymuned leol ac mae'n hynod o galonogol bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn hyd y cyfnodau yn y carchar. Bydd Uned Gorchymyn Sylfaenol Ardal y Gorllewin, Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a Chyngor Hounslow yn parhau i weithio gyda'i gilydd i wneud strydoedd Hounslow yn fwy diogel. "