Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:35 07/03/2022
Mae tri dyn wedi cael eu harestio ar ôl i swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) gynnal gwarantau mewn cyfeiriadau yn Bury St Edmunds y bore 'ma (7 Mawrth).
Disgynnodd swyddogion Tasglu Llinellau Cyffuriau BTP a Heddlu Suffolk ar y cyfeiriadau fel rhan o ymchwiliad rhagweithiol i weithgarwch llinellau cyffuriau.
Lansiwyd yr ymchwiliad ym mis Tachwedd 2021 ar ôl i ddyn gael ei stopio yng ngorsaf Stratford a chanfuwyd ei fod yn meddu ar offer a ddefnyddir yn gyffredin wrth gyflenwi cyffuriau.
Chwiliodd swyddogion y cyfeiriadau yn Bury St Edmunds ac ymafaelwyd yn:
Cafodd dau ddyn, 37 a 34 oed, eu harestio ar amheuaeth o Wyngalchu Arian a Chynllwynio i Gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a B
Cafodd un dyn, 46 oed, ei arestio ar amheuaeth o Gynllwynio i Gyflenwi cyffuriau Dosbarth A, B a C.
Fe'u trosglwyddwyd i ddalfa'r heddlu i gael cyfweliad lle maent yn aros.
Dywedodd y Prif Arolygydd Rachel Griffiths: "Mae'r troseddwyr sy'n trefnu cyflenwi cyffuriau yn cael effaith andwyol ar aelodau mwyaf bregus ein cymunedau, i gyd er eu budd ariannol eu hunain.
"Gan weithio gyda'n cydweithwyr plismona ledled Cymru, Lloegr a'r Alban, rydym yn mynd i'r afael â'r math hwn o droseddu lle bynnag y mae'n digwydd, gan olrhain y rhai sydd ar frig y gadwyn gyflenwi a'u dwyn i gyfiawnder."