Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
17:21 08/03/2021
Mae teulu bachgen yn ei arddegau a fu farw'n anffodus iawn ar y rheilffordd yn Welwyn Garden City, Swydd Hertford, heddiw yn talu teyrnged iddo.
Galwyd swyddogion i orsaf Welwyn Garden City am 11.38am ar 4 Mawrth yn dilyn adroddiadau bod rhywun wedi'i anafu ar y cledrau. Er gwaethaf ymdrechion gorau parafeddygon, datganwyd bod Josh Weavers, 17, wedi marw yn y lle. Nid yw'r digwyddiad yn cael ei drin fel un amheus.
Dywedodd teulu Josh: “Josh oedd y mab, brawd mawr, ŵyr, nai, a ffrind gorau y gallai unrhyw un ddymuno ei gael. Roedd yn gariadus, yn garedig, yn ddifyr ac yn hynod gystadleuol - roedd yn falch iawn o hyn!
"Treuliwyd ei amseroedd hapusaf gyda'i deulu, yn chwarae gemau cyfrifiadur gyda ffrindiau ac yn gofalu am ei gi Pebbles.
"Hoffem ddiolch i'r holl wasanaethau brys am eu hymdrechion gyda diolch arbennig i Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
"Rydym yn cydymdeimlo'n fawr â phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y drasiedi hon.
"Nos da fachgen hyfryd, boed i ti gael breuddwydion melys, rydym yn dy garu."
Mae teulu Josh wedi dewis rhyddhau’r llun hwn ohono ef a’i gi Pebbles. Byddem yn gofyn i'r cyfryngau barchu eu preifatrwydd nawr wrth iddynt ddod i delerau â'u colled drasig.