Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:30 03/03/2021
Mae swyddog Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig sy’n gwasanaethu wedi’i ddiswyddo heb rybudd gan y Llu yn dilyn gwrandawiad camymddwyn cyhoeddus.
Mynychodd PC Tim Anderson, sydd wedi’i leoli yng ngorsaf Finsbury Park, y gwrandawiad yn yr Holiday Inn, Camden, lle atebodd honiadau ei fod wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol, sef awdurdod, parch a chwrteisi, dyletswyddau a chyfrifoldebau, ymddygiad annheilwng, ac uniondeb.
Roedd PC Anderson ar ddyletswydd ar 4 Mawrth 2020 yng ngorsaf Finsbury Park pan ddiffoddodd fideo a wisgir ar y corff swyddog arall a difrodi'n fwriadol ffôn symudol unigolyn a gadwyd. Ar 11 Mawrth 2020, canfuwyd hefyd bod y swyddog wedi trin person a gadwyd yn ddiraddiol, pan lenwodd ei esgidiau â dŵr.
Canfu’r panel annibynnol fod ei weithredoedd yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol, ac mae wedi cael ei ddiswyddo o’r llu ar unwaith.
Meddai'r Ditectif Uwch-arolygydd Peter Fulton, Pennaeth Adran Safonau Proffesiynol BTP: “Heb amheuaeth, roedd ymddygiad anghyffredin PC Anderson yn gwbl anfaddeuol ac ni fydd yn cael ei oddef yn BTP. Mae swyddogion yn gwybod bod dyletswydd gofal arnynt i unrhyw berson sy'n cael ei gadw, a disgwylir iddynt eu trin â chwrteisi a pharch. Byddwn yn herio unrhyw un sy'n torri'r rhwymedigaethau sylfaenol hyn yn ddi-ildio”.
Mae'r cyhoedd yn ymddiried yn ein swyddogion i gynnal y gyfraith ac i ymddwyn ag uniondeb, ac roedd gweithredoedd y swyddog yn bygwth tanseilio'r hyder hwnnw. Rwyf yn cefnogi’n frwd benderfyniad y panel annibynnol i’w ddiswyddo ar unwaith.”