Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:30 14/09/2020
Mae swyddog Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig mewn swydd wedi’i ddiswyddo heb rybudd gan y Llu heddiw (8 Medi) yn dilyn gwrandawiad ar gyfer camymddwyn cyhoeddus.
Mynychodd PC Mahbub Ahmed, sydd wedi’i leoli yng ngorsaf Stratford, y gwrandawiad yn yr Ystafelloedd PSD, ar Toft Green, Efrog, lle atebodd honiadau iddo dorri safonau ymddygiad proffesiynol, sef defnyddio grym ac awdurdod, parch a chwrteisi.
Roedd PC Ahmed ar ddyletswydd pan oedd ffrae rhyngddo a dyn yng nghanolfan siopa Westfield ar 4 Mehefin 2018, pan wnaeth daro'r dyn â'i faton a defnyddio chwistrell dal. Fe ganfu'r panel annibynnol fod ei weithredoedd yn anghymesur ac yn anghyfiawn ac o'r herwydd yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Peter Fulton, Pennaeth Adran Safonau Proffesiynol BTP:"Roedd gweithredoedd PC Ahmed yn gwbl amhriodol, a daeth ag anfri ar y gwasanaeth. Mae’r cyhoedd yn disgwyl i’n swyddogion gynnal y gyfraith a’u hamddiffyn rhag niwed, ac roedd gweithredoedd PC Ahmed yn bygwth tanseilio’r hyder hwnnw.
Disgwylir i swyddogionarfer hunan-ataliaeth a defnyddio lefelau rhesymol o rym pan fydd yn briodol gwneud hynny, ond yn y sefyllfa benodol hon roedd ymateb PC Ahmed yn ddiangen ac yn anfaddeuol. Rwyf yn cefnogi penderfyniad y panel annibynnol i’w ddiswyddo ar unwaith. ”