Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Cwnstabl Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (HTP) wedi’i ddiswyddo yn dilyn Gwrandawiad Camymddwyn Carlam am gamymddwyn difrifol ar ôl ceisio gwasanaeth gweithiwr rhyw tra’n aros mewn llety a ariannwyd gan BTP yn Llundain yn ystod cwrs hyfforddi.
Roedd HC Adam Abdur-Rehman yn bresennol yn y gwrandawiad, dan gadeiryddiaeth y Prif Gwnstabl Lucy D’Orsi ar ddydd Iau 7 Mawrth ym Mhencadlys y llu yn Camden.
Rhwng 12 a 17 Chwefror 2023 mynychodd HC Abdur-Rehman gwrs hyfforddi Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn Llundain lle arhosodd mewn llety y talwyd amdano gan y llu. Ar 15 Chwefror, fe chwiliodd am wasanaethau rhyw ar ei ffôn ac yna tecstio gweithiwr rhyw i drefnu gwasanaethau rhyw. Daeth y wybodaeth i’r amlwg ar ôl i’w ffôn gael ei atafaelu yn dilyn honiad ar wahân gan gydweithiwr ynglŷn â’i ymddygiad.
Cyfaddefodd HC Abdur-Rehman yn y gwrandawiad fod ei weithredoedd yn gyfystyr â chamymddwyn ond gwadodd ei fod yn gamymddwyn difrifol. Roedd wedi bod yn swyddog heddlu gyda BTP ers 2021 ac roedd wedi'i leoli yn Preston.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Lucy D’Orsi: “Mae gweithredoedd HC Abdur-Rehmanyn anghyson â’r ymrwymiad i blismona i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched. Mae cymryd rhan mewn gweithgaredd a allai fod yn gysylltiedig â chamfanteisio rhywiol ar fenywod yn gwbl annerbyniol.Nid oedd ei weithredoedd yn gamgymeriad o farn a wnaed yng ngwres y foment fel yr honnwyd. Roedd HC Abdur-Rehman yn gwybod yn union beth roedd yn ei wneud a does dim lle iddo yn Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. Mae ei weithredoedd yn tanseilio ffydd a hyder y cyhoedd mewn plismona ac nid ydynt yn adlewyrchu gwerthoedd Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a gwaith caled a phenderfyniad y rhai sydd ynddo i amddiffyn y cyhoedd.
“Gall gwaith rhyw fod â risg gynhenid o fod yn agored i niwed ac mae’n gysylltiedig yn aml â throseddau trefniadol. Fel swyddogion heddlu mae'n ddyletswydd arnom i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, nid eu hecsbloetio er ein boddhad personol ein hunain.
“Mae gweithredoedd HC Abdur-Redman wedi codi arswyd arna i. Rydym yn disgwyl i’n swyddogion gynnal y safonau uchaf o ymddygiad proffesiynol ac mae hyn yn doriad arswydus ac atgas ar y safonau hynny.”