Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:59 01/07/2021
Mae pigwr pocedi bellach yn y carchar ar ôl cael ei ddal yn goch-law gan swyddogion dillad plaen ar y London Underground.
Gwelodd y swyddogion, sy'n rhan o sgwad pigwyr pocedi BTP, Bilal Sennousni yng ngorsaf Green Park ar ddydd Mercher 23 Mehefin tua 5pm.
Buont yn gwylio'n agos wrth iddo leoli ei hun y tu ôl i deithiwr ac o fewn cyrraedd i'w bag llaw – yna dipio ei law yn y bag, dwyn ei ffôn a gadael yn gyflym am allanfa'r orsaf.
Cafodd ei arestio cyn y gallai adael, a chafodd y ddioddefwraig ei hail-uno â 'i ffôn.
Roedd yr heddlu'n chwilio am Sennousni, 22, o Rosebank Grove, Walthamstow, hefyd am ddwyn gliniadur ar drên yng ngorsaf Paddington ar ddechrau'r flwyddyn ar ddydd Mercher 27 Ionawr.
Plediodd yn euog i'r ddwy drosedd yn Llys Ynadon Canol Llundain ar y diwrnod ar ôl ei arestio a chafodd ei ddedfrydu i 16 wythnos yn y carchar.
Dywedodd yr Arolygydd Matt Goldspink: "Dim ond un ffordd rydym yn amddiffyn teithwyr, staff a'u heiddo yw patrolau dillad plaen. Gall y patrolau hyn fod yn effeithiol iawn wrth atal pigwyr pocedi, fel a ddigwyddodd yma.
"Rydym yn patrolio'r rheilffordd yn Llundain yn gyson. P'un a allwch ein gweld ni neu beidio rydyn ni bob amser gerllaw, felly os oes gennych unrhyw bryderon, tecstiwch Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ar 61016 neu mewn argyfwng ffoniwch 999."