Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:34 19/03/2021
Mae teithiwr tiwb wedi’i wahardd o orsaf Warren Street yn Llundain am gyfnod amhenodol a dywedwyd wrtho na all adael ei gartref dros nos ar ôl ymosod ar aelod o staff.
Fe wnaeth Jordan Green, 29, fygwth y dioddefwr ar ôl gwthio drwy’r rhwystrau a chael ei ofyn i dalu am docyn.
Roedd wedi bod yn ceisio siarad â menyw wrth iddi gerdded drwy’r orsaf ac fe wnaeth honni bod y cais wedi gwneud iddo deimlo embaras o’i blaen.
Cafodd Green, o Crowland Road yn Llundain, ei wahanu oddi wrth y dioddefwr, ond yna ceisiodd gydio ynddo ef a'i eiddo dro ar ôl tro.
Roedd y dyn i fod i orffen ei sifft ac roedd ganddo siopa bwyd i fynd ag ef adref - fe wnaeth Green rwygo'r bagiau a stampio ar y cynnwys.
Hefyd cymerodd clustffonau'r dioddefwr a'u torri.
Yn y pen draw, dilynodd y dioddefwr i swyddfa'r Goruchwyliwr yn yr orsaf, gafaelodd y dioddefwr yn ei wddf a thorri ei sbectol a mwclis.
Roedd swyddogion yn y fan a’r lle ac arestiwyd Green o fewn chwe munud i’r ymosodiad gael ei riportio.
Ymchwiliwyd ymhellach i'r digwyddiad gan dîm ymosodiadau staff London Underground Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Dywedodd PC Steve Russell: “Mae ymosod ar rywun oherwydd embaras cymdeithasol yn chwerthinllyd, yn arbennig pan oedd y person hwnnw ond yn gwneud ei waith a bod ei gais yn hollol rhesymol.
“Roedd y llysoedd yn gywir i’w wahardd o’r orsaf, a bydd yn treulio’r tri mis nesaf yn methu â gadael ei gartref dros nos.
“Mae gennym dîm ymosodiadau staff penodedig ar gyfer y London Underground. Ei bwrpas llawn yw sicrhau yr ymdrinnir ag unrhyw un sy'n sarhau staff TfL ar lafar neu'n gorfforol.
“Mae staff bellach yn gwisgo Fideo a Wisgir ar y Corff, ac rydym yn defnyddio'r maint mawr o deledu cylch cyfyng ar draws yr Underground i gipio lluniau o unrhyw droseddau, y byddwn ni wedyn yn eu defnyddio fel tystiolaeth ddiamheuol yn y llys."
Cafodd Green ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Westminster ar ddydd Iau 11 Mawrth.
Plediodd yn euog i ddifrod troseddol i eiddo ac ymosod.
Ar wahân i'r gwaharddiad rhag defnyddio'r orsaf a chyrffyw, cafodd ddedfryd o 16 wythnos o garchar wedi'i ohirio am 18 mis a'i orchymyn i dalu £550 i'r dioddefwr.