Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:30 06/04/2021
Fe wnaeth Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig barhau â'u gwaith yn targedu troseddwyr llinellau Cyffuriau trwy gynnal wythnos o ymgyrchoedd yn Ne Llundain a Hampshire.
Fel rhan o Ymgyrch Tremor, roedd swyddogion yn gweithio mewn gorsafoedd o Gyffordd Clapham i Southampton, yn aml yn gweithio ochr yn ochr â heddluoedd lleol.
Bob dydd, roeddent yn patrolio platfformau, llinellau gatiau a threnau, yn cefnogi staff y rheilffordd ac yn chwilio am unrhyw arwyddion o weithgarwch Llinellau Cyffuriau.
Mae'n ymuno â'r gwaith y mae BTP yn ei wneud yn genedlaethol trwy gydol y flwyddyn fel rhan o'i Dasglu Llinellau Cyffuriau - y bwriad yw gwneud y rhwydwaith rheilffyrdd cyfan yn lle peryglus i droseddwyr trefnedig weithredu.
Fel arfer, mae Ymgyrch Tremmor yn cynnwys gorsafoedd Clapham Junction a Waterloo yn unig, gyda swyddogion yn adleoli i atal unrhyw ddigwyddiad, ac fel sicrwydd i staff a theithwyr y rheilffordd.
Mae wedi bod yn gweithredu ers 2018.
Fodd bynnag, yr wythnos hon fe’i hehangwyd i gefnogi gweithgarwch Llinellau Cyffuriau'r Llu gyda swyddogion yn dwysáu eu patrolau yng ngorsafoedd Clapham Junction, Woking, Basingstoke, Winchester, Fratton a Southampton.
Fe wnaeth yr ymgyrchoedd gynhyrchu nifer o ganlyniadau, gyda naw arestiad, pedwar o bobl wedi'u diogelu, a chyfres o ddatrysiadau cymunedol, adroddiadau ac ymchwiliadau ar gyfer troseddau lefel isel.
Dywedodd arweinydd yr ymgyrch, yr Arolygydd Simon Trotter: “Mae Tremmor yn ymgyrch amlwg iawn, rhagweithiol iawn trwy gydol y flwyddyn. Yn aml, rydym yn patrolio gyda swyddogion mewn iwnifform a rhai mewn dillad plaen, cŵn canfod cyffuriau a bwâu cyllyll.
“Ei bwrpas yw atal unrhyw ddigwyddiadau, ac mae yno fel modd i roi sicrwydd. Mae'r rheilffordd yn saff ac yn ddiogel, a dylai gweld swyddogion yn patrolio roi hyder llawn i bobl yn eu diogelwch wrth ddefnyddio'r rheilffordd.”