Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:54 25/03/2021
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig wedi cynyddu ei bresenoldeb mewn amryw o orsafoedd London Underground yn Nwyrain Llundain ers dechrau'r flwyddyn fel rhan o ymgyrch newydd o'r enw Ymgyrch Steed.
Mae'r ymgyrch wedi rhoi hwb i nifer y patrolau yng ngorsafoedd West Ham, East Ham ac Upton Park, gyda mwy o swyddogion yn y gorsafoedd hyn yn amlach.
Y bwriad yw iddo ddarparu sicrwydd i staff gorsafoedd a theithwyr, gan sicrhau eu bod yn teimlo'n hyderus yn eu diogelwch wrth ddefnyddio'r rheilffordd.
Trwy gydol yr wythnos, mae swyddogion yn cynnal patrolau amlwg, yn aml gyda chefnogaeth swyddogion dillad plaen.
Mae'r ymgyrch hefyd yn rhwystr cyson, gan sicrhau na fydd unrhyw ddigwyddiadau fel ymddygiad gwrthgymdeithasol a dwyn byth yn cael eu goddef.
Ers dechrau mis Ionawr, mae swyddogion wedi arestio 27 am droseddau gan gynnwys dwyn, osgoi talu am docynnau, tresmasu a throseddau trefn gyhoeddus.
Maent hefyd wedi cyhoeddi 70 o adroddiadau am droseddau lefel isel.
Yn aml, cefnogir yr ymgyrchoedd hyn gan swyddogion Gorfodi Cymorth Teithio Transport for London.
Y mis hwn, er mwyn cefnogi TfL a'i staff rheng flaen ymhellach, mae'r ymgyrch wedi'i hehangu i gynnwys gorsafoedd Canning Town, Bow Road a Stepney Green.