Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Fe wnaeth Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) amharu ar saith llinell gyffuriau, arestio 62 o bobl, ac atafaelu bron i £4,500 yn ystod wythnos genedlaethol o weithredu i fynd i’r afael â chyflenwad cyffuriau ledled Cymru, Lloegr a’r Alban.
Cydlynwyd yr wythnos gan Dasglu Llinellau Cyffuriau pwrpasol BTP ac roedd ei ymgyrchoedd yn cynnwys swyddogion mewn iwnifform a dillad plaen, cŵn cyffuriau goddefol a bwâu canfod metel. Fel rhan o’r gweithgarwch ychwanegol rhwng dydd Llun 4 a dydd Sul 10 Mawrth, cynhaliwyd dros 76 o ymgyrchoedd ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd, gyda mwy na hanner yn ymwneud â heddluoedd lleol.
Defnyddiwyd swyddogion mewn gorsafoedd ac ar wasanaethau trên, gan wneud cyfanswm o 54 o atafaeliadau cyffuriau, tynnu 36 o arfau oddi ar y rheilffordd, a chipio 44 o ffonau symudol a ddefnyddiwyd ar gyfer cyflenwi cyffuriau.
Mae'r Tasglu yn gweithio nid yn unig i arestio troseddwyr a chael cyffuriau oddi ar y strydoedd ond hefyd i ddiogelu'r rhai sy'n gysylltiedig, sydd fwyaf agored i niwed. Yn ystod yr wythnos, derbyniodd 10 o bobl ymyriadau gofal a chymorth a chawsant eu diogelu rhag peryglon Llinellau Cyffuriau.
Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Gareth Williams, arweinydd Tasglu Llinellau Cyffuriau BTP: “Mae canlyniadau’r wythnos ddiwethaf yn dangos pa mor effeithiol ydyn ni o ran tarfu ar rwydweithiau troseddol ac amddiffyn pobl ifanc a bregus rhag niwed.
“Cafodd yr ymdrechion hyn eu hybu gan ein cydweithwyr o luoedd lleol, ond mae ein tîm pwrpasol yn gweithio ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd cyfan bob dydd i fynd i’r afael â’r gweithgarwch camfanteisio hwn.
“Rydym yn arbennig o falch ein bod wedi sicrhau dau gyhuddiad am droseddau Caethwasiaeth Fodern, gan ein bod yn benderfynol o arestio ac euogfarnu troseddwyr sy’n rhoi plant mewn perygl mawr, drwy eu cynnwys mewn Llinellau Cyffuriau.
“Rydym yn annog unrhyw un i riportio i ni unrhyw arwyddion o gamfanteisio ar blant neu unrhyw bryderon trwy decstio 61016 yn bwyllog, gall unrhyw wybodaeth helpu i arwain at ddal y rhai sy’n gyfrifol.”
Gellir gwneud adroddiadau i BTP ar 0800 40 50 40, trwy ffonio 999 mewn argyfwng a gallwch riportio unrhyw wybodaeth yn ddienw i Crimestoppers ar 0800 555 111.