Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Fe wnaeth Tasglu Llinellau Cyffuriau Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig weithio’n agos gyda lluoedd eraill ledled y wlad ar 243 o ymgyrchoedd ar y cyd gan dargedu gorsafoedd rheilffordd a thiwb penodol, gan ddefnyddio gwybodaeth heddlu lleol ochr yn ochr â gwybodaeth ein swyddogion arbenigol i sicrhau bod pob lleoliad yn gweld llwyddiant o ran atal Llinellau Cyffuriau ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Maent yn gweithio'n ddiflino o ddydd i ddydd i dargedu'r rhai sy'n defnyddio'r rhwydwaith rheilffyrdd i gludo cyffuriau ac sy'n camfanteisio ar blant a phobl ifanc.
Mae’r Tasglu'n cynnal ymgyrchoedd rheolaidd gan ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau datrys troseddau gan gynnwys ei adran gŵn, swyddogion mewn iwnifform a dillad plaen yn ogystal â nifer o dactegau eraill i nodi’r rhai sy’n ymwneud â throseddoldeb. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae’r ymgyrchoedd hyn wedi arwain at 671 o arestiadau, cyfanswm anhygoel o 540 o atafaeliadau cyffuriau gan gynnwys dros 154kg o Ddosbarth A a 113kg o Ddosbarth B. Ochr yn ochr â'r atafaeliadau hyn mae swyddogion wedi atafaelu dros £245k mewn arian parod o weithgarwch troseddol.
O gymharu â'r flwyddyn flaenorol, gwnaed 73 yn fwy o arestiadau a chefnogwyd cannoedd yn fwy o bobl trwy ddiogelu. Mae arweinwyr y gangiau Llinellau Cyffuriau hyn yn ysglyfaethu ar bobl ifanc i wneud eu gwaith budr, roedd 40% a arestiwyd yn bobl ifanc yn eu harddegau ac o’r rheini roedd llai nag 1 o bob 5 wedi’u cyhuddo o droseddau, gan roi cofnod troseddol iddynt.
Yn anhygoel, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gwnaed 22 o Gyhuddiadau Caethwasiaeth Fodern - y mwyaf o unrhyw flwyddyn ers ffurfio'r tasglu yn 2019. Mae hyn yn golygu bod y llu yn dwyn y rheini i gyfrif am eu gweithredoedd anghyfreithlon wrth ymgysylltu â phobl mewn ymddygiad anghyfreithlon yn erbyn eu hewyllys.
Atafaelwyd mwy na 500 o ffonau symudol a ddefnyddiwyd i drefnu cludo cyffuriau ac arfau ar y rhwydwaith rheilffyrdd dros y 12 mis diwethaf. Mae dadansoddi'r ffonau hyn a'r wybodaeth a geir ohonynt yn allweddol i'n harwain at drefnwyr gangiau Llinellau Cyffuriau.
Fe wnaeth swyddogion hefyd atafaelu 250 o arfau dros y 12 mis, gyda nifer anhygoel o 36 o atafaeliadau arfau yn ystod wythnos gyntaf mis Mawrth, gan gynnwys dau arf tanio.
Dywedodd arweinydd y Tasglu Llinellau Cyffuriau, Ditectif Brif Uwcharolygydd Gareth Williams, “Rwy’n falch bod y Tasglu wedi sicrhau cynnydd o 12% yn nifer yr arestiadau o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
“Yn anffodus, rydym yn dal i weld llawer gormod o blant yn ymwneud â Llinellau Cyffuriau, nid ydym yn ceisio troseddoli plant, ac rydym yn defnyddio’r arestiad fel cyfle i ymyrryd yn ddiogel a chasglu cudd-wybodaeth i’r grwpiau troseddu cyfundrefnol sy’n ecsbloetio plant.
“Byddwn ni'n parhau i fynd ar ôl y rhai sy’n gwneud bywydau'n ddiflas trwy gyflenwi cyffuriau yn enwedig y rhai sy’n rheoli plant a phobl ifanc ac yn camfanteisio arnynt mewn Llinellau Cyffuriau.
"Os ydych chi'n poeni am rywun yn cael ei ddal mewn Llinellau Cyffuriau neu os oes gennych chi wybodaeth yr hoffech chi roi gwybod amdani, tecstiwch 61016, ffoniwch ni ar 0800 40 50 40 neu ffoniwch CrimeStoppers yn ddienw ar 0800 555 111."