Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddog yn Reading wedi cael ei ddiswyddo yn dilyn gwrandawiad camymddwyn difrifol a gynhaliwyd rhwng 22 a 25 Ionawr.
Fe wnaeth Cwnstabl yr Heddlu Aaron Petford fynychu ei wrandawiad dan gadeiryddiaeth Cadeirydd annibynnol â Chymhwyster Cyfreithiol a gynhaliwyd ym Mhencadlys Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) yn Camden, yn dilyn honiadau o gamymddwyn difrifol.
Dros gyfnod o flwyddyn, gan ddechrau oddeutu mis Awst 2021, canfuwyd bod PC Petford wedi gwneud cyfres o sylwadau amhriodol o natur rywiol i ddwy gydweithiwr benywaidd ac un cydweithiwr gwrywaidd ar sawl achlysur.
Canfu’r panel fod pob un o’r deg honiad wedi’u profi ac roedd yn fodlon bod ei weithredoedd yn torri’r safonau ymddygiad proffesiynol mewn perthynas ag ‘awdurdod, parch a chwrteisi’ ac ‘ymddygiad annheilwng’.
Daethant i’r casgliad bod PC Petford wedi gweithredu’n fwriadol a’r canlyniad mwyaf priodol i sicrhau hyder y cyhoedd yng ngwasanaeth yr heddlu ac atal camymddwyn yn y dyfodol, oedd ei ddiswyddo heb rybudd.
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Alistair Sutherland:
“Trwy ei weithredoedd dangosodd PC Petford ddiffyg llwyr o barch a phroffesiynoldeb i’w gydweithwyr ac fe wnaeth iddynt deimlo’n anghyfforddus dros gyfnod hir. Mae hyn yn annerbyniol ac nid yw’n cefnogi gwerthoedd y llu hwn mewn unrhyw ffordd.”