Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:56 30/11/2020
Mae Aaron Marsh, 24, o High Street, Dudley, wedi’i gyhuddo o ddau gyfrif o Niwed Corfforol Difrifol, bod ag arf ymosodol yn ei feddiant, bod â chyffur dosbarth B yn ei feddiant a bod â chyffur dosbarth A yn ei feddiant.
Fe ymddangosodd yn Llys Ynadon Wolverhampton y bore 'ma, ac mae wedi ei gadw yn y ddalfa tan ei ymddangosiad nesaf.
Mae ditectifs yn parhau i apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth ddod ymlaen a chynorthwyo eu hymchwiliad gan ddyfynnu'r cyfeirnod 209 o 26/11/20. Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â BTP trwy anfon neges destun at 61016 neu ffonio 0800 40 50 40. Fel arall gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.