Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:38 30/06/2022
Mae dyn wedi cael ei garcharu am naw mis ac wedi cael gorchymyn atal niwed rhywiol (SHPO) ar ôl pwyso ei afl yn erbyn menyw ar drên London Underground.
Cafodd Zane Donovan, 25, ac o White Gardens, Dagenham, ei ddedfrydu i 41 wythnos yn y carchar a'i gorchymyn i lofnodi cofrestr y troseddwr rhyw am 10 mlynedd yn Llys y Goron Llundain Fewnol ar ddydd Mercher 22 Mehefin ar ôl pledio'n euog i ymosodiad rhywiol.
Cafodd hefyd orchymyn atal niwed rhywiol 5 mlynedd, yn ei wahardd rhag ceisio siarad ag unrhyw fenyw mewn man cyhoeddus nad yw'n adnabyddus iddo - gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Am 6.30pm ar ddydd Gwener 25 Mawrth, aeth y ddioddefwraig, menyw feichiog, ar fwrdd gwasanaeth Victoria Line yng ngorsaf Green Park a theimlai'n syth ddyn yn pwyso ei afl yn ei herbyn o'r tu ôl am tua 20 eiliad.
Pan heriodd ef, ymatebodd gyda 'Sut ydych chi am i mi sefyll, nid oes gennyf le' a gadawodd y trên yng ngorsaf Victoria. Yn dilyn ymholiadau teledu cylch cyfyng, arestiwyd Donovan sawl diwrnod yn ddiweddarach.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) Brittany Armstrong: "Roedd y digwyddiad hwn yn arbennig o frawychus a gofidus i'r ddioddefwraig, ac rwy'n falch o weld Donovan y tu ôl i fariau am ymddygiad amhriodol o'r fath.
"Efallai na fydd rhai pobl yn ystyried bod pwyso'n drosedd rywiol, neu'n ddigon difrifol i'w riportio yn enwedig mewn amgylchedd gorlawn, ond yng ngolwg y gyfraith mae hyn yn ymosodiad rhywiol a bydd troseddwyr yn cael eu dal a'u cosbi yn unol â hynny.
"Os ydych chi'n profi neu'n dyst i'r ymddygiad hwn ar y rhwydwaith, rydym yn eich annog i rybuddio swyddog neu i'w riportio drwy ein tecstio ar 61016. Byddwn bob amser yn eich cymryd o ddifrif."