Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ditectifs yn parhau i ymchwilio i ddigwyddiad ar y rheilffordd yn Newark ar ôl i swyddog Heddlu o Swydd Nottingham farw’n drist iawn y prynhawn yma.
Cafodd swyddogion eu galw i’r lein ger gorsaf Newark Northgate am oddeutu 7.10pm ar 24 Awst yn dilyn adroddiadau bod person ar y cledrau.
Cafwyd hyd i'r Rhingyll Graham Saville o Heddlu Swydd Nottingham ag anafiadau difrifol, a chafodd ei gludo i’r ysbyty lle bu farw’n drist iawn y prynhawn yma (29 Awst) gyda’i deulu wrth ei ochr.
Fe wnaeth ymholiadau gadarnhau bod y swyddog wedi'i daro gan drên wrth ymateb i ddigwyddiad yn ymwneud â phryder am les dyn. Dioddefodd y dyn, 29 oed, anafiadau trydanu, ac aed ag ef i’r ysbyty hefyd lle mae’n parhau ag anafiadau na chredir eu bod yn newid ei fywyd.
Mae ditectifs o BTP yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau llawn yr hyn a ddigwyddodd.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Allan Gregory: “Mae hyn yn newyddion gwirioneddol ddinistriol ac ar ran pawb yn Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig hoffwn i estyn cydymdeimlad diffuant a dilys i deulu’r Rhingyll Saville, ac i’n cydweithwyr yn Heddlu Swydd Nottingham.”
“Mae ditectifs o BTP yn cynnal ymchwiliad llawn a thrylwyr er mwyn sefydlu amgylchiadau llawn yr hyn a ddigwyddodd yr wythnos ddiwethaf.
“Rydym yn parhau i fod yn y camau cynnar iawn o’r ymchwiliad hwn a byddwn yn gweithio ochr yn ochr â Swyddfa’r Crwner wrth iddo fynd rhagddo.
“Mae’n un o’r dyddiau tywyllaf ym myd plismona i golli swyddog wrth iddo gyflawni ei ddyletswydd, a bydd anwyliaid y Rhingyll Saville ar flaen ein meddyliau drwy gydol ein hymholiadau.”