Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:40 11/11/2022
Mae teulu Nathan Evans, 16, a fu farw ar y rheilffordd yn Plymouth yn drist iawn, heddiw yn rhoi teyrnged iddo.
Cafodd swyddogion eu galw i'r lein ger gorsaf reilffordd St Budeaux Ferry Road am 2.31pm ar 8 Tachwedd yn dilyn adroddiadau bod rhywun wedi'i anafu ar y cledrau.Mynychodd parafeddygon hefyd, fodd bynnag, yn anffodus cafodd Nathan ei ddatgan yn farw yn y fan a'r lle.
Nid yw'r digwyddiad yn cael ei drin fel un amheus.
Dywedodd mam Nathan: "Roedd Nathan yn ddyn ifanc caredig, cariadus, addfwyn a chwrtais - ef oedd y mab gorau y gallai unrhyw un ofyn amdano ac yn frawd mawr anhygoel i'w frodyr a'i chwiorydd.Roedd yn hyfforddi i fod yn gogydd ac roedd eisoes yn hynod o dda wrth ei grefft. Roeddem i gyd wrth ein boddau gyda'i ddanteithion wedi'u pobi, ac roedd ei deisennau brau yn ffefryn ar ein haelwyd.
"Roedd wrth ei fodd yn mynd ar deithiau cerdded teuluol i'r gornant neu unrhyw le wrth y dŵr, ac yn bennaf oll yn mynd i dŷ ei nain a'i ewythr am bryd rhost a bisgedi wedi'u torri ar ddydd Sul . Roedd gan Nathan gymaint o gariad a thosturi tuag at unrhyw un y cyfarfu â nhw, ac rwy'n gwybod bod ei ffrindiau niferus wedi golygu llawer iawn iddo. Bydd colled aruthrol ar ei ôl i bawb."
Mae teulu Nathan wedi dewis rhyddhau'r llun yma ohono. Byddem nawr yn gofyn i'w preifatrwydd gael ei barchu wrth iddyn nhw ddod i delerau â'u colled drasig.