Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:07 08/11/2022
The family of Oliver Baker, 15, who very sadly died on the railway in Devon, are today paying tribute to him.
Mae teulu Oliver Baker, 15, a fu farw yn anffodus iawn ar y rheilffordd yn Nyfnaint, heddiw yn talu teyrnged iddo.
Cafodd swyddogion eu galw i'r lein ger gorsaf Ivybridge am 9.02am ar 3 Tachwedd yn dilyn adroddiadau bod rhywun wedi'i anafu ar y cledrau.
Mynychodd parafeddygon hefyd, fodd bynnag, yn anffodus cafodd Oliver ei ddatgan yn farw yn y fan a'r lle. Nid yw'r digwyddiad yn cael ei drin fel un amheus.
Wrth roi teyrnged i'w mab, dywedodd ei fam:"Roedd Oliver yn fab hynod o gariadus a gofalgar, brawd mawr, ŵyr, nai, cefnder a ffrind gorau i gynifer. Roedd gan Oliver ddyfodol mor ddisglair o'i flaen, gyda gyrfa rygbi addawol a breuddwyd oes o ymuno â'r fyddin.
"Roedd wrth ei fodd yn mynd i'r gampfa leol a hyfforddi tîm rygbi'r plant. Byddai'n helpu unrhyw un mewn eiliad ac mae wedi bod yn hynod o wylaidd clywed cymaint o straeon am yr effaith a gafodd ar fywydau pobl.
"Rydym wir wedi ein llorio ac yn dorgalonnus fel teulu gyda cholled ein bachgen hardd. Fydd ein bywydau wir byth yr un fath eto.
"Hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi dod yn eu blaenau a chynnig eu geiriau caredig o gymorth. Rydym wedi cael ein cyffwrdd yn llwyr gan negeseuon gan deulu, ffrindiau, a chlybiau rygbi o bob rhan o'r byd."
Mae teulu Oliver wedi dewis rhyddhau'r llun yma ohono. Byddem nawr yn gofyn i'w preifatrwydd gael ei barchu wrth iddyn nhw ddod i delerau â'u colled drasig.